Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

L' ALLEGRO. (Cyfieithiad 0 SAESONEG Milton.) Hwnt, Felancoli ffiaidd I Cerber ac Afagddu doist yn ferch, O dwll Ystochus erch- I blith pob adgas rith a gwaedd a drych ansantaidd Cais ryw anhysbys nyth, Lle taen Tywyllwch gorllyd ei adenydd dig, Lle cân y gigfran nos,-ac yno trig, Dan ddu gysgodau a gwgus greigiau Mor garpiog a'th gudynnau Mewn llwyd Gimmeria ddiffaeth, aros fyth. Ond dere, dduwies (yn y ne' Fe'th elwir fyth Euphrosyne, A chan ddynion, Mwyn Lawenydd) Deg a llon, ti a'th chwiorydd, Dair o Rasau gyda'ch gilydd, A ymddug Gwener gu, gariadus I'r eiddew-goronedig Bacchus; Neu (fel y cân rhyw rai sy' ddoethach) 'Roedd chwyth chwareus y Gwanwyn, hwyrach- 'Roedd Zephyr ar Wyl Fai'n cyd-chware (Ar ol cyd-gwrdd) â Gwawr y Bore Ar wâl o fioledau glas A gwlith-drochedig ros, y gwas A'i gwnaeth hi'n fam it', lodes lan-fad, Mor hoenus, llon, a del dy d'rawiad. Brysia Riain, inni moes Hoen ac asbri bore oes Dychan, gogan, gwantan gastiau, Coelion, swynion, torchog wenau, Mal rhai ar ruddiau Hebe'n hongian, A'u hoffle mewn boch-bantau mwynlan. Gan watwar Gofal crych, doed Chware A Chwerthin, gan gyd-ddal ei ochre. Dowch ar hedlam, yn ddioed, Gan ysboncio'n ysgawn droed. Ar dy dde, bod iti ddwyn Merch y mynydd. Rhyddid fwyn. Ac os rhof d' anrhydedd iti, Gad im'. Lawenydd, le'n dy gwmni,- Gydfyw â hi, gydtyw â thithau, Mewn diwarafun rydd fwyniannau Gael clywed cychwyn hêd uchedydd, Sy'n tarfu syrthni'r Nos a'i gywydd, O'i ddisgwylfa yn y wybren Nes codo gwawr lanerchog heulwen Ac yno dod, waeth be' fo'm pla, I'm ffenest, gyda Boreu Da," Drwy'r ddrysien neu'r winwydden,