Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IL PENSEROSO. (Cyfieithiad 0 Saesoneg MILTON.) Hwnt, wegi twyll Fwyniannau, Epil Ffolineb, aned heb un tad 0 leied yw'r boddhad A'r llawdd i'r meddwl dwys o'ch holl degannau! Ewch i ryw 'menydd segur, Gan lenwi crebwyll ffol â rhithiau gwychion, Cyn amled â'r temigion Dirif a hoyw yn mhelydrau'r huan, Neu â breuddwydion gwantan­ Anwadal weis yng ngosgordd duw'r cysgadur Ond henffych, dduwies ddoeth, rasusol, Henffych, Felancoli nefol! Rhy gain dy wyneb glwys, pe'n amlwg, I daro synwyr dyn a'i olwg Rhag eiddil drem y celi'th wyneb Dan orchudd du, dwys liw Doethineb- Du, eto gwiw i chwaer Tywysog Mal Memnon wych, neu i serennog Frenhines Ethiop, fu'n ymryson Clod harddwch gynt â'r mor-forwynion, Gan roddi tramgwydd i'w pwerau. Ond llawer uwch dy darddiad dithau I Sadwrn unig, er's hir oes, Vesta, wych ei gwallt, a'th roes; (Ei ferch oedd hi dan ei deyrnasiad, Nid oedd y fath gyfathrach anfad) Ar ddolau ac mewn deildai tesog — Cilfachau cyfrin Ida goediog, Yn fynych cyfarfyddai'r ddau, Pryd nad oedd eto arswyd Iau. Tyred, burlan leian lwys, Ddianwadal, ddifrif, ddwys, Mewn llawn wisg o'r we dywyllaf, Y godre ol mal ffrwd o'r harddaf; Boed ar draws d'ysgwyddau gweddus Fantell ddu, o fainwe Cyprus. Tyr'd, ond cadw'th oesol urddas, Mewn myfyriol osgo addas, Dy drem â'r nef yn cwrdd, a'th enaid Mewn pang yn eistedd yn dy lygaid Mewn llesmair llwys, mewn engur ango', Ymrithia di fel marmor yno, Nes bo'th olygon, ar i waered. Yn drist a thrwm yn syllu ddygned. Doed atat Heddwch teg a Thangnef, Cul Ympryd, mynych westai'r wiwnef,