Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRASLUN-UN 0 BRIF BREGETHWYR CYMRU. Pwy YDYW ? Y mae gwrthddrych y braslun hwn yn sefyll yn uchel yn mhlith Pregethwyr Cymru "—yn uchel o ran cyfuniad ei alluoedd ond yn uchaf o ran ansawdd, ac adnoddau dihysbydd ei feddyliau. Y mae hyn yn awgrymu nad yw yn ogyhyd ei esgeiriau­-fod rhai o'i alluoedd yn fwy disglaer nag eraill, yr hyn sydd yn wirionedd nad ellir ei wadu. Nid yw yn ddiffygiol mewn dim, er y rhaid i ni ddweyd fod rhai elfennau ynddo yn israddol i eraill. Y mae ad- noddau ei feddwl yn llawer mwy nag adnoddau ei gorff, er y rhaid cydnabod ei fod yn bwysig iawn o ran y dyn oddiallan ond cawn fantais i egluro hyn fel yr awn ymlaen. Cymerodd ei le, ar y cyntaf yn llinell flaenaf ein dynion cyhoeddus, ac y mae wedi cadw i fyny ei safle yn ddiogel am flyn- yddoedd lawer, ac wedi parhau i fyned ar gynnydd sefydlog. Ganwyd a magwyd ef mewn treflan sydd wedi bod yn enwog am ei phregethwyr, ac y mae ef yn un o'r rhai hynaf, a'r galluocaf o'r holl feibion a fagodd, ac er ei fod wedi gadael yr hen dreflan er's cryn lawer o amser bellach, y mae ymlyniad ei galon wrthi yn aros yr un. Credwn ei fod yn syniad am ei wlad a'i gartref, fel y dywedai un arall o feibion athrylith There is a magic in that little place — It is a mystic circle that surrounds comforts and virtues never known beyond its hallowed grounds."—Yr oedd ef yn eithriadol yn hyn. Ni fynai fod y wireb-" Cas gwr na charo y wlad ai macco," yn perthyn dim yn y nawfed radd iddo ef; ond yn hytrach, yr oedd yn siarad yn barchus bob amser am y lle, a'r hen drigolion a hyfryd fyddai gwrando arno yn eu disgrifio megys yn fyw o flaen ein llygaid. Ond ni a symudwn ymlaen i roddi darnodiad o nodweddion y dyn oddiallan, yn gystal a neillduolion y dyn oddimewn. Y mae ei ymddangosiad allanol yn brawf diamheuol ei fod yn meddu dynoliaeth iachus, gadarn, lawn, a chymesur; ychydig yn dalach na'r cyffredin o ddynion, ac o osgedd urddasol a boneddig- aidd. Mae ganddo ben mawr, crwn, a llawn, a'i holl ermigau mewn cydbwysedd dymunol. Y talcen yn uchel, llawn, a bwäog. Y llygaid yn fawrion a thywyll o ran lliw, ac yn ymwthio i'r golwg yn amlwg, ac yn dwyn tystiolaeth arbennig i'r meddwl grymus a godidog sydd yn syllu trwyddynt. Y mae y trwyn o faintioli cym- edrol, yn wastad, ac yn addurn i'r wynebpryd llyfndew a rhadlon j y