Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teimlaf rywfodd fy mod wedi gosod testyn eang uwchben fy ysgrif, fel y mae yn anhawdd gwybod pa le i ddechreu traethu arno. Hwyrach mai y ffordd oreu i ymgeisio at ei egluro ydyw drwy ofyn, Beth ydym yn ei feddwl wrth Weithiwr ? Gair ydyw y mae pawb yn honi hawl iddo ar adegau, ac yn neillduol felly ar adegau ethol- iad Seneddol a Sirol, Dinesig a Phlwyfol. Dywedai gweinidog wrthyf yn ddiweddar, ac yntau yn ymgeisydd am sedd ar Fwrdd Addysg, Workman, I am myself, &c." ond pe dywedasai un o'i aelodau ym mhen tair wythnos yr un peth am dano, cawsent eglurhad buan ar bechod anfaddeuol, sef cablu urddas y gwr. Yn debyg, fel y gwyddom yn dda, y mae ambell arglwydd o Sais ewyllysia gael sedd Gymreig. Ymgeisia â'i holl egni ddarbwyllo yr etholaeth ei fod o haniad Gymreig. Nad oedd mewn gair a gweithred namyn un o ddisgynyddion parchus Owain Glyndwr. Dyma y modd y mae pob ymgeîsydd bron os y tybia fod mewn aelodaeth neu sedd foddion i wireddu brawddeg bwysleisiwyd gan un ddysgai y werin fel un ag awdurdod ganddo. Yn wir, meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr." Maent am lechu dan gochl y gair Gweithiwr," serch iddynt fod fel Dafydd yn nillad Saul. Gofalant er hynny eu hysgwyd ymaith mor gynted ag y bydd dyfarniad y werin yn hysbys, neu, yn wir, cyn wyth o'r gloch y nos honno byddant wedi ei frad- ychu yn amlach nag y gwnaeth Pedr cyn caniad y ceiliog. Cawn ryw ddosbarth ddywed wrthym fod dau ddusbarth o weithwyr, sef y rhai lafuriant â'u dwylaw a'r rhai weithiant â'u penau er harbed eu dwylaw. Yn perthyn i'r dosbarth olaf a nodwyd y mae pob rhywogaeth ac amrywiaeth, yn debyg i'r hyn welodd Petr gynt. Archesgobion, gwleidyddwyr, pregethwyr, meddygon, a masnach- wyr, ië, y quack doctor a'r fenyw ddywed fortune — un ac oll a honant fod yn weithwyr. Y dosbarth arall ydyw y rhai orfodir i enill eu bara a bod beunydd dan nod y felidith. Y rhai hyn, fel y pryf copyn, a afaelant â'u dwylaw." Cawn duedd gref yn y dosbeirth i gyd i edrych yn amheus ar eu gilydd. Cred rhai o'r gweithwyr â'u dwylaw, taw ynddynt hwy y ceir y cymhwysderau pennaf i drin y byd yn eu holl amgylchiadau, ac hefyd mai nod Cymru Fydd ydyw cadw y sedd yn St. Stephan i'r sawl wisgant ddillad nafi neu golier. Wn i ddim pa un ai mantais ai anfantais ydyw fod y dosbarth hwn heb weled eto y gallu sydd ynddo i newid agwedd pethau i'w foddlonrwydd Ar hyd y blynyddau, cawn ryw duedd slafaidd ynddo, ac fe rydd ei law ar ei gap, gan ymostwng yn wasaidd i bob çreadur wisga ddosben sidan, ddisglaer, a choler heb Y GWEITHIWR.