Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NODIADAU LLENYDDOL A DIWINYDDOL. LLYFR DEL: Rhodd Owen Edwards. TLYSAW Ynys Prydain Gan H. Brython Hughes. Nansi Merch y Pregethwr Dall. Gan Elwyn a Watcyn Wyn. Gwrecsam Hughes a'i Fab Pwv ydyw Owen Edwards ? Casglwn oddiwrth y rhagymadrodd i Llyfr Del fod rhywbeth a wnelo â Rhydychen. Ai yr un ydyw ac O. M. Edwards, golygydd Cymru ? Os felly, i b'le mae'r M wedi myn d ? A ydyw y gwr mwyn yn dropio Morganiaeth o gyfenw ? A phaham y gelwir y llyfr yn rhodd ? Rhodd Owen Edwards." Efallai mai am yr un rheswm ag y gelwir llyfr arall pur adnabyddus yn Rhodd Mam. Llyfr i blant ydyw Llyfr Del, wedi ei ysgrifennu gan lenor sydd yn deall meddwl plentyn. ac yn medru gwisgo pob ystori â syml- edd ac â swyn. Dywed rhai fod y math yma o lenyddiaeth yn brin yn y Gym- raeg. Digon tebyg fod gennym gryn lawer o lyfrau plentynaidd, mawr a bach, Ond y mae cyfuno symledd, a naturioldeb maboed, gyda cheinder llenyddol yn gryn orchest. Ond beth bynnag ydyw yr orchest o gyflwyno llyfr i blentyn yn ngwisg harddaf yr iaith Gymraeg, y mae Mr. Owen Edwards wedi ei chyflawni. Beth yn dlysach ellid gael na'r desgrifiad a rydd efe o Fêdd y Cenhadwr ? "Gwelodd y paganiaid long yn angori ar eu traethell, a phedwar o ddynion gwynim yn glanio. Yr oedd tri yn ddynion cryfion canol oed a phan ofynwyd iddynt beth a werthent, atebasent Nid oes gennym ddim i'w werthu yr ydym yn cynnyg efengyl heddwch heb arian ac heb werth., Ond yr oedd un o'r cenhadon yn ieuanc, a r dwymyn wedi ymaflyd ynddo, Rhoddwyd y bachgen claf i orwedd dan gysgod y palmwydd ar y traeth, lie yr oedd wedi meddwl cyhoeddi efengyl yr Iesu. Am dri diwrnod bu'n dihoeni dan y dwymyn. Soniai am y mynyddoedd: gwelai ei gartref, a'r eira o'r tuhwnt iddo. Ac o'r diwedd gwelodd wlad a'i gogoniant yn fwy na'r goleuni ar yr eira: a gwelodd ynddi un â llyfr yn ei law. Mi welaf fy nghartref,' meddai, a'm brawd hynaf. Y mae llyfr yn ei law, ac y mae fy enw i ynddo. Dacw'r Hwn fu farw o'i fodd dros bechadur. Dacw enw Fritz Becher ar Lyfr y Bywyd.' Torwyd bedd iddo ar y traeth. Y mae'r paganiaid eto'n holi am yr Hwn fu farw o'i fodd dros bechadur, ac am Lyfr y Bywyd. Y mae palmwydden dàl eto'n gwylio uwch ben bedd plentyn gwlad yr eira — Pan ferwo y weilgi ar làn Coromandel, Gofynnir adfeilion ei babell bob un Pethau o'r fath yna, yn y llón a'r lleddf, sydd yn britho dalennau'r llyfr, ac y mae y darluniau clysion sydd ynddo yn chwanegu at ei ddyddordeb a'i harddwch. Ebai yr awdwr am dano Hwyrach y gwnaiff lyfr darllen ar yr aelwyd gartref ar hirnos gauaf a hwyrach y caiff fynd at y plant i'r ysgolion dydd." Gobeithio'r anwyl mai felly y bydd Os amgen, rhaid fod rhyw ddallineb barnol yn teyrnasu yn y tir. Ydyw, y mae hwn yn llyfr Dél yn ystyr oreu y gair; ac yr ydym yn dra diolchgar i Owen Edwards am ei Rodd i Gymry icuainc yr oes.