Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD Henri Bergson yw yr athronydd newydd am yr hwn y mae llawer o son yn y dyddiau diweddaf hyn, a chryn ddyfalu ynghylch ei ddysgeidiaeth. Y mae wedi gwneud ei ymddangosiad yn sydyn, fel seren oleu wiw, neu gomed yn hytrach, yn y ffurfafen athronyddol, ac y mae lliaws yn dechreu syllu arno gyda dyddordeb cywrain. Hyd yn ddiweddar iawn, er yn boblogaidd ers peth amser yn Ffrainc, ei wlad frodorol, ni wyddai nemawr neb ddim am dano yn y wlad hon, ag eithrio ychydig o bobl academaidd. Y diweddar Athraw William James, o'r America, drwy ei ysgrifeniadau swynol ac adeiladol, alwodd sylw rai ohonom gyntaf at y meddyliwr Ffraincaidd. Yn rhifyn Ebrill (1909) o'r "Hibbert Journal," ceir ysgrif ganddo ar Bergson, yr hon a gynnwysir yn ei gyfrol "The Pluralistic view of the Universe." Meddyliwn mai yn y Gwanwyn diweddaf y gwnaeth Bergson ei ymddangosiad cyhoeddus cyntaf yn y wlad hon, pan draddododd yr "Huxley Lecture" ar Fywyd ac Ym- wybyddiaeth o flaen Prifysgol Birmingham. Ceir y ddarlith hon yn rhifyn deng-mlwyddiant yr "Hib- bert Journal" am Hydref. Tua'r hâf diweddaf, cy- hoeddwyd cyfieithiad Saesneg-y cyfieithiad cyntaf o ddim o waith Bergson yn y wlad hon-o'i brif lyfr hyd yn hyn, sef "Dadblygiad Creadigol," yr hwn waith sydd wedi ei adolygu a'i feirniadu mewn dull galluog a threiddgar gan Mr Balfour, yn yr "Hibbert Journal" am fis Hydref. Yn ddiweddarach eto, cy- hoeddwyd cyfrol fechan yn cynnwys syniadau Berg- son ar athroniaeth Chwerthin," a dengys yr awdwr yn ei ymdriniaeth ar y pwnc aml-ochredd ei wreidd- iolder. Bu yn areithio dro yn ol mewn gwahanol fannau yn Llunden, a chafodd dderbyniad a gwrand- awiad brwdfrydig lle bynnag yr elai. Rhoddwyd sylw mawr iddo yn y newyddiaduron, a dygid y tyst- iolaethau mwyaf canmoliaethus iddo yn yr adrodd- iadau a'r erthyglau ymddangosodd ar y pryd. Yr oedd y cyffro a'r cywreinrwydd greodd ei ymweliad a'r Brifddinas ym mysg y meddylwyr yn ein-hadgoflo IONAWR, 1912. HENRI BERGSON