Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1R IDDEWON YN YR AIFFT. "Y dydd hwnnw y bydd pum dinas yn nhir yr Aifft yn llefaru iaith Canaan, ac yn tyngu i Arglwydd y lluoedd. Dinas distryw (Theres) y gelwir un. Y dydd hwnnw y bydd allor i'r Arglwydd yn nghanol tir yr Aifft, a cholofn i'r Arglwydd ger llaw ei therfyn hi. Yn arwydd hefyd ac yn dystiolaeth y bydd i Ar- glwydd y lluoedd yn nhir yr Aifft." Esay 19, 18-20. Teflir goleuni newydd a hynod ddyddorol ar yr adnodau rhyfedd hyn o eiddo Esay, ac ar safle yr Iddewon yn yr Aifft gan ddarganfyddiadau pwysig r. wnaed yn ddiweddar gan y Proffeswr Sayce ac eraill. Ar ynys yn afon yr Aifft (y Nile) o'r cnw "Ele- phantine," i fyny yn agos i'r rhaiadr cyntaf, ar derfyn yr Aifft Uchaf, caed olion hen ddinas a fuasai am oesau yn amddiffynfa rhag ymosodiadau'r fithiopiaid i fyny'r afon. Yn y flwyddyn 1906, wrth gloddio yn yr adfaelion hyn, doed o hyd i hen femrynau yn yr iaith Arameaidd, a brofent yn eglur fod yn Elephan- tine drefedigaeth o Iddewon Saith Ganrif cyn Crist. Cyhoeddwyd rhai o'r memrynau hyn gan Pro- ffeswr Sachau. o Berlin. Mewn dau ohonynt ceir copi o ddeiseb a anfonwyd gan un Yedoniah a'i frodyr Iddewaidd yn Elephantine at Bagoas, llywodraethwr Babilonaidd (neu Persiaidd) Judea. Dyddir y ddeiseb yr 20fed dydd o Marchesvan (Tachwedd) yn yr 17eg fiwyddyn i Darius yr Ail (sef yn y flwyddyn 408 cyn Crist). Dair blynendd cyn hyn (yn 411 C.C.) yr oedd offeir- iaid Khum, duw Aifftaidd y rhaiadr gerllaw, ac i'r hwn y cysegrasid dinas Elephantine, wedi cymeryd man- tais ar absennoldeb y llywodraethwr Persiaidd Ar- sames, a thrwy lwgrwobrwyo Waidrang (yr is-lyw- odraethwr), wedi cael ganddo ddinistrio "Teml Yahu" (neu Yahuch-sef "Jehofah"), yr hon safai yn yr adran Iddewig o'r ddinas. Anfonasai Waidrang ei fab a nifer o filwyr Pers- iaidd o'r gwarchodlu, ynghyd â nifer o Aifftiaid, i ddinistrio y deml Iddewaidd-" Teml Yahu." Yn ol y ddeíseb-" dinístríasant hi hyd ei sylfaen. Drylliasant y colofnau o feini nâdd oedd yn y cysegr a thorasant yn chwilfriw y saith porth mawr, ynghyd