Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ERASTIAETH ERASTUS. Gair drygsain i Ymneillduwr, yn arbennig, yw Erast- iaeth, a gair yr ystyria Hawer i Eglwyswr, hefyd, ei fod yn cyfleu mesur o enllib. Golygir wrth yr enw anghyf- iaith hwn yr egwyddor nad yw'r Eglwys namyn rhan o'r Wladwriaeth, bod y gallu gwladol í'w llywodraethu, ac mai er budd a mantais gwleidyddiaeth y rhaid trefnu a rheoli amgylchiadau'r Eglwys. Gellir darnodi Erastiaeth mewn dull mwy eithafol trwy ddywedyd syniaw o honi mai peth hollol ddarostyngedig i ddeddf ac awdurdod bydol-lywiawdwyr yw crefydd, ac na fedd yr Eglwys unrhyw hawl o gwbl i lywodraethu ei chyfundrefn na'i deiliaid, ond yn 01 mcsur y gennad a rodder iddi gan y Wladwriacth. Yn ein dyddiau ni cysylltir Erastiaeth yn neillduol a'r egwyddor fod Eglwys Loegr yn rhan anheb- gor o'r Wladwriaeth cyn belled ag y mae a fynno a Lloegr a Chymru, ac mai buddiol i'r Eglwys ei hun, a manteisiol i'r Llywodraeth ydyw'r berthynas hon. Cyd- nabyddir hi, yn anad yr un corff neu enwad crefyddol araW, fel yr Eglwys a noddir gan y Wladwriaeth, a'r unig Eglwys a olygir mewn darnodiad ymarferol o Erast- iaeth yn ei pherthynas a'n cyflwr gwleidyddol ni ar hyn o bryd. Dyma'r Eghvys syd'd yn ddarostyngedig i'r Wladwr- iaeth. Y Goron sydd, trwy'r Llywodraeth,. yn penodi'r prif offeiriaid i'w swyddau ysbrydol, ac yn gorchymyn unffurf- iaeth mewn defodau. Llysoedd gAvladol sydd yn y pen draw yn penderfynnu hyd yn oed a ydyw syniadau diwirr- yddol personau neillduol yn gyson ag erthyglau ffydd yr Eglwys, heb son am brofi achosion y neb a gyhuddir o gam-ddefod yn y gwasanaeth. Heb ymdroi gyda chwest- iynnau erajll ar hyn o bryd, gellir dywedyd mai un o'r prif wahaniaethau (heb gyfrif breintiau arbennig mewn adnpddau neu urddas) rhwng sefyllfa Eglwys Loegr ac eiddo cyrff crefyddol eraill ydyw, na chyfrifir yr enwadau eraill ond megys cymdeithasau gwirfoddol. Nid yw'r Wladwriaeth yn ymyrryd dim a'u hunan-lywodraeth hwy, cyn belled ag y trinier yr eiddo yn ol gweithredoedd cyfreithiol y gymdeithas, aC na wneler unrhyw gam a'r