Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BYWYD A LLAFUR Y DIWEDDAR DDUC O DEVONSHIRE. Y dydti o'r blaen, dygwyd allan drwy y wasg Seisnig, Gofiant y diweddar wr enwog uchod. gan Mr. Bernard Holland, mewn d\\v gyfrol drwchus, ac y mae y gwaith, yn barod, wedi cael ei feirniadu, a'i atdolygu yn fanwl iawn gan rai beirniaid. Mae rhai yn canmol, ac eraill yn beio, a rhai yn gweled diffygion, ac eraill yn gweled rhagoriaethau, a rhai yn barnu fel hyn, ac eraill yn barnu fel arall, a thrwy y cwbl, gwyntyllir y gwaith yn helaeth a chywrain iawn. Cyn myned at y Cofiant, dywedwn, fod ysgrifennu ad- olygiad ar Fywyd a Llafur gŵr enwog o Wladweinydd, ncu Lenor mawr, yn gelf arbennig ar ei phen ei hun, ac vn gangen 0 lcnyddiaeth sy'n anhawdd iawn ei meistroli. Ac o amser Boswell hyd heddyw, ac y mae yn debyg mai felly y peru pethau o hyd, y mae ysgrifennu Cofiant da o unrhyw ddyn enwog yn orchest anhawdd dros ben. Feallai mai y rheswm am hyn yw—fod yn rhaid i bob Cofiantydd adnabod ei wrthrych yn drwyadl cyn beiddio ysgrifennu y gwaith, neu, yn sicr, bydd ei ymdrech yn anghyflawn. Nid oedd neb a gyd-ocsai gyda Boswell yu dychmygu y buasai ym gallu ysgrifennu Cofiant mor ragorol i Dr. Johnson; ond taw waeth am hynny, cafodd yr oesoedd a ddel wybod y gallasai wneud; oblegid ysgri- fennodd Gofiant i'w wrthrych byd-enwog nad oes dim o'i well eto wedi ei ddwyn allan' drwy y wasg Seisnig o hynny hyd heddyw. Dirgelwch llwyddiant mawr Boswell yw ei fod yn adnabod ei wrthrych mor dda, a'i fod yn ei hanner-addoli. Edmygai Boswell Johnson yn fwy na'r un dyn enwog ydoedd wedi ei wcled, ac y mae delw dyn wedi ci lyngcu gan gyfaredd a swyn athrylithgar ei wrth- rych mawr ar bob dalen yn y llyfr. Tynnodd ddarlun o'i arwr fel yr ydoedd­—"wart and all or nothing," ys dy- wedai Cromwell wrth ei arlunydd,—gyda'i ddiffygion yn gystal a'i ragoriaethau, ac y mae y gwaith yn aros byth yn gofadail ardderchog o'r hyn gyflawnodd. Medrodd Boswell gael allwedd i fyned i mewn i bob ystafell ym