Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DDEDDF LYWODRAETHOL ACHOS AC EFFAITH. Priodolir — yn aml — liaws o ddeddfau i Dduw i'r dyben o gyfarfod ag amgylchiadau neillduol: ceir engreifftiau o hynny yn y Deg Gorchymyn." yng nghyda deddfau natur. Ond y ffaith yw, na pherthyn i Dduw ond un yn unig: sef y Ddeddf Lywodraethol yr hon sydd yn gyfansoddedig o'r gwir, a'r unig berffeithrwydd, sydd megis yn rhedeg trwy'r nefoedd a'r ddaiar gydag awdurdod safonol i fesur a phwyso holl ddeddfau y byd ysbrydol, yn ogystal a'r byd naturiol. Ac i'r ffaith hon y gellir priodoli bodolaeth amherffeith- rwydd oherwydd pa na buasai perffeithrwydd, ni buasai am- herffeithrwydd. Rhaid ydyw wrth safon er profi cywirdeb, neu anghywirdeb unrhyw achos. Drwy gyfatebiaeth (analogy), neu gyferbyniaeth y naill achos gyda'r llall y canfyddir y tebyg- rwydd, neu yr anhebygrwydd a fodola rhyngddynt. Mae modd cyferbynu yr hyn sydd ddrwg a'r hyn sydd dda i'r dyben o arddangos y gwahaniaeth a fodola rhyngddynt. Dibynna safon y gyferbyniaeth ar yr hyn sydd dda i'r gradd- au y bydd y da yn ddadblygedig yn y naill, i'r graddau hynny hefyd y bydd y drwg yn ddadguddiedig" yn y llall. Y goleuni disglaeriaf a ddengys y tywyllwch mwyaf dudew; y gwres mwyaf angerddol a wna yr oerni yn fwy anioddefol a'r cyfoeth mwyaf a wna'r t'lodi llymaf, &c. Ond nid yr un egwyddor a geir mewn perthynas i gyfateb- iaeth oherwydd rhaid ydyw i debygrwydd fodoli naill ai yn rhannol, neu yn llawn yn y naill achos, i'r hyn ydyw yn'y Hall. Fe ddywedir mai ar yr egwyddor hon y darganfydd- wyd aur gyntaf yn Australia oherwydd i wr o'r enw Hard- graves ganfod cyfatebiaeth yn y glaswellt i'r hyn ydoedd yn California.. Trwy gyfatebiaeth y clai y darganfyddwyd rhai llechfeini. Ceir mai yr un egwyddor sydd yn gyfrifol am liaws o ddarganfyddiadau mawrion a phwysig. Ymddibynna holl ddeddfau bywyd dyn ar gyfatebiaeth: pan yn prynu neu werthu; bwyta neu yfed, &c. Cyflawnir yr oll dan ddylanwad yr egwyddor hon. Safon'pob cyfatebiaeth ydyw perffeithrwydd: e.g., bwyty ddyn fara heddyw oherwydd ei fod yn cyfateb i'r hyn a