Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GELLIAU A LLWYNI. Ymwelais yn ddiweddar a'r Creunant, gerllaw Castell- nedd. Ni fum yno erioed o'r blaen. Clywais lawer am yr hen bregethwr Rees Hopk:n o'r Creunant. Da gennyf yd- oedd cael y cyfle i siglo llaw âg wyres iddo. Yn naturiol ymholais am ystyr enw y lle. Y mae Creunant yn gorwedd yn nyffryn y Dylais, yr hon sydd yn rhedeg i'r Nedd yn Aberdylais. Ac i'r Dylais y mae nant risialaidd yn llifo ryw dair milltir yn uwch i fyny nag Aberdylais. Y mae dwfr y nant honno mor groew fel y gellir gweled ei gwaelod o bellder. Y ffrwd loew hon sydd wedi rhoddi ei henw i'r Creunant, megis ag y mae amryw o afonydd Cymru wedi rhoddi eu henwau i leoedd ereill, megis Abertawy, Aber- honddu ac Aberteifi. LIe yn ymagor ydyw y Creunant. Cyn bo hir bydd yno weithiau glo amryw. Ymholais am y ffermydd o amgylch y lle. Enwyd i mi y rhai hyn;-Gellígaled, Gellibenuchel, a Gellidochlaethau. Tarawyd fi gan y ffaith fod tair Gelli yn ymyl eu gilydd, ac yn enwedig gan yr enw Gellidochlaeth- au. Dyma lond pen o air. Beth all fod. ei ystyr? Ni fed'rai y cyfeillion yng Nghreunant egluro. Daeth yn sydyn i'm meddwi, fod dochlaethau yn dalfyriad o drychiolaethau; ac os felly fod y lle wedi bod yn drigfan ysbrydion, 0 leiaf yn nhyb yr hen drigolion. Sylwer eto yn ymyl Aberdylais y mae y Fforest Fach; ac uwchlaw y Creunant y mae On- llwyn neu llwynon, a'r ochr draw i'r mynydd yng Nghwm Tawy y mae yr Alltwen, lle y bu y Parchedig Philip Griffiths yn gweinidogaethu am flynyddoedd. Yn wir yn ymyl Creunant y mae ffermdy o'r enw Gould. Digon tebyg mai llygriad o Gallt ydyw Gould. Wele o leiaf bedwar o enwau lleoedd, gelli a llwyn a fforest a gallt, yn dynodi coedydd. Ceir cyfuniad cyffelyb o'r un enwau lleoedd mewn ardaloedd ereill ym Morganwg. Yn naturiol y mae Tonyrefail yn llithro ym mlaenaf i'r meddwl Yn yr ardal brydferth ac anwyl hon ceir Gelligron-lle gan' mlynedd yn ol yr oedd yn byw deulu o'r enw Cadwgan, ac yn ol Mr. Daniel Davies, Ton Ystrad, Rhondda, yn disgyn oddiwrth y Tywysog Cadwgan; y ddwy Gellirhaidd, yn yr uchaf o ba rai y magwyd y diweddar Barch. Daniel Williams, Llwynhendy; Gelliseren a Gellidawel. Mae yr olaf o'r