Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN EMYNNAU GWLAD, Dyma y rhan ddiweddaf o gyfres yr hên emynnau cartrefol. Achubwyd llawer rhag difancoll sicr. AR DDECHREU ODFA, Sef rhai u lediodd hên bregethwyr o flaen pregethau, neu hên saint ar ddechreu seiadau, &c Nyddwyd llian yn yr arfaeth, Stôfiwyd mewn cyfamod rhâd, Ac fe'u gweuwyd o'r cenedliad, Hyd orffeniad tywallt gwaed; Dyma wisg a guddia'r euog, Dyma wisg a glyda'r noeth, O fewn hon nid ofna'i 'mddangos Pan yr elo'r byd yn boeth. Clywyd ei ledio yn hên gapel Beddgelert gan Ddafydd Cadwaladr. Copiwyd o \sgrifau Gruffydd Prisiart, yr hanesydd crefyddol. Cryned uffern fawr, os myn, Hi gaiff golled, Myn Iesu werth Ei waed — yn wyn, Er ein dued Ni thry ewyn iddo'n ol, Mae'n resolfo, Ac aed a'i eiddo ar ei ol, — Llwyddiant iddo! Cafwyd gan y Parch. Thomas Hughes, Machynlleth. Rhyw gynhwrf ac arswyd a welir Ym myddin y diafol yn awr,— Tyrfaoedd sy'n dychwel dan wylo At Iesu'r Emmanuel Mawr; Mae myrdd o delynau'n dod adref I ganu yn beraidd pryd hyn, Am goncwest y Gwr a fu farw Dan hoelion ar Galfari fryn. Lediwyd ef yn nghanol brwdfrydedd Diwygiad '59, yng nghapel y Garth, Porthmadog, gan yr hên flaenor Mr. William Williams, Llanerch.