Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD MAWRTH. 1912. LLAIS GWAREIDDIAD A DDINISTRIWYD. LLENYDDOL ac ieithyddol yw prif os nad unig amcan Cym- deithas yr Ysgrifau Gwyddelig;" ond erbyn y delo dydd dysg i bawb a gwir wareiddiad, y mae hi, ond odid, yn gwneuthur gwaith ehangach nag a ddychmygodd. Pe òai hanes a llenyddiaeth Iwerddon yn hysbys i'r ychydig wir wareiddiad sydd yn Ewrop heddyw, fe orfyddai hyd yn oed i'r dosbarth hwnnw yn Lloegr, nad oes neb mor ofer á disgwyl y gellir byth ddysgu iddynt na gwareiddiad na gonestrwydd, fod o leial beth yn is eu cloch. A rhe ceffid i Ienyddiaeth a hanes eu lle dyledus yn addysg gwlad a gwledydd, byddai gan bob Sais, agored i wareiddiad a gonestrwydd, gywilydd arddel ei berthynas â'i hynafiaid, pan fyddai'n fater o son am Iwerddon—ac, efallai, am nid ychydig o wledydd ereill. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf o Dánta Aodhaghain Ui Rathaille gan Gym- deithas yr Ysgrifau Gwyddelig yn 1900, dan olygiaeth y Parchedig Patrick S. Dinneen, M.A., a Tadhg O'Donog- hue, Torna." Cyhoeddwyd yr ail argraffiad y llynedd, am fod eisoes yn amhosbl cael copïau o'r cyntaf er cynnyg teirgwaith cu pris cyntefig am danynt. (îancd Egan O'Rahili tua'r flwyddyn I670, ond nid oes sicrwydd ym mha le. Y mae er hynny yn amlwg ei fod o deulu gweddol dda eu hamgylchiadau, a'i fod wedi cael addysg a'i gwnaeth yn gyfarwydd â'r clasuron, â llenydd- iaeth Wyddelig, ac yn ol pob tebyg â'r iaith Saesneg. Perthynai yn hollol, o ran ei ddysg, ei syniadau a'i gydym- deimlad, i'r hen fywyd Gwyddelig a ddinistriwyd gan y Saeson yn ei oes ef ei hun. A marwnad y bywyd hwnnw yw ei weithiau. "Collodd y Gwyddyl eu teithi mwyn a theg," meddai, — cymwynasgarwch, haelioni, moes, a melys