Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NESTORIAETH NESTORIUS. I. PERTHYN yr ysgrif hon i'r gyfres honno o erthyglau ar Ddiwinyddion Antiochia a ddechreuwyd gennym er ys talm, gan feddwl y buasem wedi ei gorffen amser maith cyn hyn. Gorfodir i ni draethu ar Nestorius yn ddiatreg, heb ymdrin a'r dysgodron a'i rhagflaenodd ef yn Antiochia, o herwydd y diddordeb arbennig a gymer lliaws o ddiwin- yddion ar hyn o bryd yn ei athrawiaethau ef, er pender- fynu'r cwestiwn a gyfodwyd yn fynych oddiar gyfnod Luther, sef pa un ai uniongred ynte cyfeiliornus ydoedd Nestorius. Yn ystod y saith mlynedd diweddaf ym- ddanghosodd nifer o lyfrau ac erthyglau tra phwysig ynglŷn â'r pwnc. Yn 1905 cyhoeddodd y Dr. Friedrich Loofs Nestoriana, sef casgliad o weddillion Nestorius. Yn 1908 ymddanghosodd amddiffyniad o hono gan yr Athro J. F. Bethune-Bakcr, o Gaergrawnt, dan yr enw Nestorius and his Teaching, a beirniadwyd gosodiadau'r diwinydd treiddgar hwn gan offeiriad o'r enw H. M. Relton yn The Church Quarterly Review am Ionawr di- weddaf. Maentumia Bethune-Baker nad Nestoriad ydoedd Nestorius, namyn uniongred a chatholig, ond ddarfod camddeall ei athrawiaeth, o ran o herwydd am- hwysedd y termau a'r ymadroddion a arferai efe yn ei ddadleuon yn erbyn plaid Cyril, esgob Alecsandriar ynghylch Dwy Natur Crist. Nestorius the Nestorian yw teitl erthygl alluog Relton, yr hwn a ddeil brofi o weithredoedd ac ymadroddion Nestorius, ynghyda'i gysylltiadau diwinyddol a ran ysgol a lle, y tueddai ac y gogwyddai ei ddysgeidiaeth yn hollol at yr hyn a elwir yn Nestoriaeth, sef gwadu Undod Personol y Ddwy Natur yng Nghrist, honni mai cyfaneddu mewn dyn neilltuol a wnaeth Duw y Gair, a mynnu, trwy hynny, na bu wir Ymgnawdoliad. Casgliad Relton ydyw fethu o Bethune-Baker gyfiawnhau Nestorius. Gwel DRAETHODYDD, Mawrth, 1909.