Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IDDEWIAETH A CHRISTIONOGAETH. Beth yw perthynas Iddewiaeth a Christionogaeth? Dyma gwestiwn sydd fel llawer un arall yn haws ei ofyn na'i ateb. Nis gellir gwadu ar un llaw i Iddewiaeth baratoi'r ffordd i Gristionogaeth, ac i grefydd Crist dyfu megys o foncyff y grefydd Iddewig. Ac ar llaw arall, ceir llawer o ogoniant Cristionogaeth yn yr elfennau hynny ynddi sydd yn myn'd dan wraidd Iddewiaeth. Ymwrthyd y Cristion a llawer o bethau nodweddiadol Iddewig. Ond dylid gofyn ar unwaith beth feddylir wrth Iddew- iaeth? Dichon yr atebai ambell un mai crefydd yr Hen Destament. Ond fel y gwyddis, defnyddir y gair Iddew- iaeth am ffurf neillduol i'r grefydd honno tuag adeg dechreuad Cristionogaeth a chanrif neu ddwy cyn hynny. O'r gair Judah." y tardd y gair Iddew, ac felly ni ellir yn briodol ei ddefnyddio am neb o blith y deg llwyth. Pan y sonnier am y genedl hyd ddinystr Samaria a'r deyrnas ogleddol yn 721 C.C., y gair Hebrewr" neu Israeliad" ddylid arfer. Dadblygiad y grefydd Hebre- aidd wedi dychweliad y deheuwyr o gaethiwed Babilon ydyw Iddewiaeth. Felly {mae Iddewiaeth yn gyfundrefn neillduol a dyfodd o grefydd yr Hen Destament: ar sail yr Hen Destament yr adeiladwyd hi. Ac fel y defnyddir er engraifft y gair Stoiciaeth am agwedd neillduol o feddwl heddyw, felly hefyd defnyddir y gair Iddewiaeth yn ami am agwedd arall. Gair mawr Iddewiaeth yw y ddeddf, ac er y cydnabyddir yr 011 o'r Hen Destament fel Beibl ganddi, eto iddi hi y rhan bwysicaf o'r casgliad hwnnw yw y Pum Llyfr. Y mae gan Iddewiaeth hefyd ddull neillduol o esbonio'r ddeddf, am hynny cnewyllyn Iddewiaeth ydyw agwedd neilduol o feddwl. I ganlyn hyn daw ysbryd deddfol, caled, seremoniol. Ac esgora'r cyfan ar gulni crefyddol, ar gred ddìsigfl mewn dwyfol darddiad math arbennig o ffurflywodraeth grefyddol rhoddir pwys ar seremoniau ac ar ordeiniadau y tadau, a chredir nad oes iachawdwriaeth i neb fotuallan i gortynnau'r babell freintiedig y perthyna'r bobl hyn iddi. Gwir yw hyn am hanes crefydd ym