Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AGWEDDAU CREFYDDOL DATGYS YLLTIAD AGWEDD grefyddol pob cwestiwn dan driniaeth yw ystyr- iaeth gyntaf Ymneilltuwyr Cymru. Xis gallwn ganiatau i athrawiaethau na chyfleusterau gwleidyddol mewn un modd i bylu gwirionedd nac amharu llwyddiant crefydd yn ein gwlad. Dianghenraid yw i esgobion gwleidyddol ofyn i ni ystyried buddiannau hefyd, ac haerllugrwydd di- gywilydd ynddynt yw taeru nad oes gennym hawl i ddweyd ein bod yn credu y bydd Datgysylltiad yn fantais i grefydd, ac i'r Eglwys hefyd, mor bell ag y mae'r Eglwys yn sefydliad crefyddol. Tra y taerent hwy y bydd datgysylltiad yn niwed i grefydd, ac yn wendid i'r Eglwys; mae gennym ninnau hawl rhyddid barn a gwir- 'ionedd i ateb eu dadl. Gormod o'r dydd yw hi i esgob- ion i ymguddio a tharanu y tu ol i gastell llwfriaid anffael. edigrwydd, a gwarafun i Ymneilltuwyr ryddid barn a 'lafar. Mater o argyhoeddiad crefyddol yn bennaf a blaenaf yw hwn i ni. Xi fuasem* yma heddyw oni bai ein bod yn crcdu fod Eglwys Wladol yn groes i egwyddor ac ysbryd crefydd Crist, ac yn atalfa ar ei llwyddiant. Ganwyd yr argyhoeddiad hwn yng Xghymru yng ngwres diwygiadau ac yn nhân erledigaethau o herwydd pregethu'r efengyl. Dyna oedd unig drosedd y tadau Ymneillduol a'r diwygwyr Methodistaidd, a phan erlid- iwyd ac y carcharwvd hwynt, ac y trowyd hwy allan o'r Eglwys am ufuddhau i alwad Duw a thosturio wrth «eneidiau colledig, disgynnodd gofid a syndod a phetr,usder arnynt. Gwyddent fod rhywbeth allan o le, ond nid oedd eto'n eglur beth oedd. Deallodd eu holynwyr yn y ganrif ddiweddaf yn gliriach beth oedd ar gam. Gwel- sant mai cysylltiad yr Eglwys a'r Wladwriaeth oedd gwraidd yr holl ddrwg. Oni bai am hynny ni buasai'r erlid a'r troi allan yn bosibl o gwbl. Yr oedd yr Eglwys weledig wedi ei rhwymo yng nghadwynau'r wladwriaeth, Anerchiad a draddodwyd mewn Cynhadledd yng Xghaernarfon, Mai 18, 191 2, yw sylwedd yr ysgrif hon.