Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ESGEULUSO R TAN. Yn ei lyfr anfarwol ar Wladwriaeth, ceisia Plato gael o hyd i'r hyn yw cyfiawnder yro y person unigol, drwy ei ar- chwilio ar raddfa fawr iawn mewn cydgynulliad o berson- au fel ag a geir mewn dinas. Yro ein dyddiau ni y mae y ddinas wedi myned yn deyrnas, a'r deyrnas yn Ymherodr- aeth, a'r Ymherodraeth mewn½ cyngrair ac ententes a gwledydd eraill, nes y mae y darlun mor fawr fel na ellir gweld ei rannau a'u perthynas a'u gilydd. Y ffordd hawddaf heddyw i sylweddoli yr hyn sydd yn y mawr yw edrych arno yn y bychan. Dywed y rhai sydd yn canlyn symudiadau Ewropeaidd wrthym fod y cyfandir yn ymrannu. yn ddwy wersyll wrth- wynebol a gelyniaethus. Ar un llaw ceir y Triple Entente — cyfeillgarwch Lloegr, Ffrainc, a Rwsia — a'r Triple Alliance "-cyfeillgarwch Germani, Awstria, a'r Eidal, ar y llaw arall. Arweinia polisi Syr Edward Grey, medd rhai, ni i frwydr fawr Armageddon, a chyn hynny i Lynges fawr a byddin gymaint ac; a geir yn y Cyfandir a gorfodaeth filwrol. Dywed Arglwydd Rosebery fod hyn y ffaith ddifrifolaf yn y rhan olaf o'i oes. Ond mor fawr yw y maes fel nad all ond ychydig ganfod y peth. Credwn y ceir yn yr ystori ganlynol o eiddo Tolstoy ddarlun byw ar raddfa fechan o'r ddau wersyll y rhennir Ewrob iddynt yn awr. Ni raid dweyd wrth yr un dyn call nad yw y ffaith fod un filltir ar hugain o longau rhyfel-perthynol i Brydain-yn llosgi glô ddylai fod ar aelwydydd y wlad, yn warth ac yno greulondeb, ac yn anheilwng, nid yn unig o Gristionogaeth, ond o bobl sydd ryw ychydig yn uwch na'r anifail. Rhag ofn i'r darllennydd golli ergyd bwysig yr ystori, cofier nad ydyw Ifan (sef Prydain) yn addef hyd derfyn y trychineb mai arno ef yr oedd y bai. Yr ydym fel gwlad yn gofidio, gyda chryn gywirdeb yn ddiau, fod cymaint yn cael eu gwario ar longau rhyfel, ond y mae y bai bob amser, yn ol ein syniad ni, ar ryw genØ1 arall. Er mai gennym ni y mae y lynges fwyaf, nid y ni yw achos y gynnen. Ein barn ni yw hynny. Y mae achosydd i'r gynnen. Dyma'r ystori wedi ei chyfaddasu a'i thalfyru ychydig. Mewn pentref neillduol trigai tyddynwr o'r enw Ifan Jones. Treuliai ei oes yn eithaf cysurus, canys yr oedd