Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAN FESSIANAIDD VYRSIL. Tybiais na buasai yn anyddorol gan ddarllenwyr y Traethodydd weled y Gân fyd'-enwog hon, mewn diwyg Gymreig. A chan nad yw clust y Cymro yn hoffi llawer ar y Gân benrhydd, ceisiais ei rhoddi mewn odl. Ac yr wyf yn meddwl yr addefa y rhai galluog i farnu, fod ystyr y gâro yn cael ei gosod allan yn lled gywir yn y cyfieithiad ac yn y rhan fwyaf o honi, yr wyf wedi llwyddo i roi cyf- ieithiad llythyrennol. Cyfansoddwyd y Gân yn y flwyddyn 40 C.C. Blwyddyn bwysig i'r Ymherodaeth Rufeinig, am mai dyma y pryd y llawnodwyd cytundeb heddwch Brundisium, rhwng Antony ac Octavius, Augustus Caesar ar ol hynny. A dis- gwyliai Vyrsil a'r byd lawer oddiwrth yr heddwch hwn. Dygwyd yr heddwch oddiamgylch yn bennaf trwy offerynol- iaeth Pollus, Consul y flwyddyn hono. Dyna un rheswm, os nad yr unig reswm, dros ddwyn ei enw ef i mewn i'r Gân. Nid oes un ran o'r clasuron wedi cael mwy o sylw gan Gristionogion na'r gân hon. Edrychid arni fel proffwyd- oliaeth ddiamheuol am y Messiah, ac apelid ati, yn enwedig yn y byd cenhedlig yn y canrifoed'd cyntaf, fel proffwydoliaeth wedi ei chyflawni yn Iesu o Nazareth. Wedi rhoddi y gân gerbron, bydd y darllennydd mewn gwell mantais i farnu ei hystyr, a phenderfynu rhai cwest- iynnau dyrus yn ei cylch. Ceridwen Sicilia, materion uwch canwn Nag eithin a pherthi. I goedydd os eiliwn Ganeuon, yn wastad bydd raid eu cynllunio, Yn deilwng o urddas y Consul mawr Pollio. Oes olaf cân Cumae, yn barod a welwyd. Gwych gyfnod yr oesau dibechod a anwyd.