Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JAINIAETH. Cyfrifir fod yn yr India oddeutu 1,400,000 o rai a broffes- ant y grefydd Jaina. Maent yn wasgaredig tros yr holl wlad, a deil llawer o honynt safleoedd pwysig, ac y mae nifer o honynt yn feddiannol ar gyfoeth mawr. Maent yn bobl elusengar, ac; yn hynod eu gofal am, a'u tynerwch tuagat anifeiliaid. Bu dechreuad y grefydd hon yn ddirgelwch mawr hyd yn gymharol diweddar. Credir yn awr yn lled gyffredinol fod Buddhistiaeth a Jainiaeth yn ddadblygiad graddol o Frahminiaeth, ac mae sylfaenydd yr olaf ydoedd Nata- putta, yr hwn adwaenir yn gyffredin wrth yr enw Maha- vira, neu Vardhamana. Ffrwyth myfyrdod ar gwestiyn- au mawr bywyd tua'r 6 ganif C.C. ydoedd y dadblygiad. Nid anyddorol, yn ogymaint ag i Fuddhistiaeth a Jain- iaeth gael eu dechreuad oddeutu \'r un amser, fydd cym- haru y ddau sylfaenydd, cr gweled ym mha bethau yr oeddynt gyffelyb, ac ym mha bethau y gwahaniaethent. Mab Sidhanta, brenin Kundagrama, ydoedd Mahavira. Ganwyd Gautama neu Buddha yn Kapilavastu, ym mren- hinaeth Magadha, tua chan' miíldir i'r gogledd-ddwyrain o Benares. Bu farw mam Gautama ar ei enedigaeth, ond bu mam Mahavira byw hyd nes iddo ef dyfu i oedran gwr. Tebygai Mahavira a Buddha i'w gilydd mewn tri pheth. (i) Bu y naill a'r llall am amser yn byw bywyd meudwyol. (2) Perthynai y ddau i ddosbarth (caste) Kshatriya. (3) Gwrthodidd y ddah gydnabod awdurdod crefyddol y Brahman. Ond er hyn gwahaniaethent mewn llawer i bethau. Yn groes i ewyllys ei dad y bu i Gautama fyned yn feudwy; ond fe arosodd Mahavira hyd ar ol marw ei dad'cyn myned yn feudwy. Am chwe blynedd v dilyn- odd Buddha fywyd 0 erwindeb, ac edrychai wedi hynny ar y chwe blynedd hvn fel amser wedi ei golli; ond parha- odd Mahavira am ddeuddeng mlynedd, ac fe ystyriai hyd ddiwedd ei oes fod rhinwedd mewn meudwyaeth. Wedi iddo dreulio deuddeng mlynedd o fywyd gerwin a chaled daeth vn hollwybodol, ac vn broffwyd, a elwid Tirtha- kara. Wedi hynny bu am ddeng mlynedd-ar-hugain yn pregethu ac yn trefnu ei ddosbarthiadau meudwyol. Nifer ei ddisgyblion ydoedd un-ar-ddeg. Cyfrol gysegredig y Jaina yw y Sidhanta, a gyfansodd- wyd tua'r bedwaredd ganrif C.C., ond ni phenderfynwyd ar y Canon hvd gynghor Valabbi, dan lywyddiaeth Devardhi tua'r flwyddyn 454 neu 467 O.C. Yr arfer ym flaenorol 1 hyn ydoedd dibynu bron yn hollol ar y cof i drosglwyddo