Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MEWNFODAETH. Gwyr pob un sydd yn gyfarwydd a phrif nodweddion yr oes, fod dylanwad dyn ar y byd anianyddol wedi cynyddu i'r fath raddau trwy y celfau a'r gwyddorau, a'r darganfyddiadau wedi lliosogi mor gyflym, fel y mae wedi myned i ymfalchio yn ei allu. Nid oes yn y balchder hwn ynddo ei hun, lawer o niwed, ond mae tuedd gref trwy y pethau hyn. nid yn gymaint i wadu bodolaeth Duw, ond i wadu y posiblrwydd i ddyn ddod i adnabydd- iaeth, a pherthynas bersonol â Duw. Edrychir arno gan lawer. fel gallu Amhersonol, y tu hwnt i amgyffredion y meddwl dynol. Ac felly gosodir pellder anfeidrol rhwng Duw a'i gread, a bod perthynas rhwng Duw a dyn yn amhosibl. Yng ngwyneb y pethau hyn, y mae o bwys i ddiwinydd- iaeth y dyfodol, er cyfarfod ag anghenion yr oes, olrhain pa beth yw perthynas Duw a'r cread ac â dyn. er mwyn cyfarfod a hawliau ein natur foesol ac ysbrydol, ac i'r amcan yna, yr ỳdym vn ceisio codi cwrr y llen yn wylaidd yn yr ysgrif hon, gan hyderu y ceir goleuni disglaeriach yn y dyfodol. Haerir yn aml mai trwy y Ddiwinyddiaeth Newydd y daeth yr athrawiaeth hon i oleuni. Ond credwn yn wahanol, trwy yr hyn a brofasom, ac a glywsom gan eraill, yn y diwygiad diweddaf, yr hwn á flaenorodd y cyhoeddusrwydd a roddwyd iddi gan Mr. Campbell. 0 bosibl iddo ef fod yn achlysur i lawer wneud ymchwiliad manylach, trwy ei honiadau. Ond amhosibl ydoedd iddo lewyrchu ei oleuni i diriogaeth mor gysegredig, tra yn lledaenu syniadau eithafol a chyfeiliornus am Dduw, a thueddu i ddinystrio cyfrifoldeb personol dyn, trwy wneuthur Duw yn awdwr pechod, a dyn a natur yn un a Duw yn ei hanfod. Credwn fod yr athrawiaeth o Fewnfodaeth, nid yn unig yn un o'r athrawiaethau mwyaf cyfoethog y gall y meddwl dynol ei choleddu, ond hefyd, yn gyfryw ag y mae'r enaid a'i holl ymadferthodd yn ceisio dod o hyd iddi, er ei gysur, a'i ddedwyddyd tragwyddol; ac i'r graddau y rhoddir ci lle iddi yn y dyddiau hyn, y dylanwada er daioni i grefydd y dyfodol, ac yn fanteisiol i gyfarfod a chynnydd addysg a gwyddoniaeth yr oes.