Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. PERSON CRIST.! Y MAE'N ddiameu y cydnebydd pawb ohonom mai Person Crist ydyw'r pwnc pwysicaf mewn Cristionogaeth, ac mai ar yr athrawiaeth hon yn y pen draw y dibynna'r holl Efengyl. Er enghraifft, dibynna'n syniadau am gwest- iynau fel Awdurdod Dysgeidiaeth Crist, ystyr Ei Hunan- Aberth wrth fyw ac wrth farw, Personoliaeth Duw, a Pherson a Gwaith yr Ysbryd Glân, ar ein syniadau am Berson Crist. Y mae hyd yn oed Maddeuant ac Iach- awdwriaeth-yn yr ystyr y profwyd ac y dehonglwyd hwy ynddi gan yr Eglwys ar hyd yr oesoedd-yn dibynnu ar yr athrawiaeth hon. Yn wir y mae Cristionogaeth i gyd- fel y deallwyd Cristionogaeth hyd yma-yn sefyll neu'n syrthio gyda Pherson Crist. Ac os cam-ddeallwyd Person Crist o ran Ei hanfod, camgymeriad echrydus yw holl Ddiwinyddiaeth yr Eglwys, oblegid Ei Berson Ef fu canolbwynt Diwinyddiaeth o'r dechreu hyd heddyw. Wrth ymdrafod â'r pwnc yn y cyfarfod hwn, ac o fewn yr amser a ganiateir, rhaid inni gymryd rhai pethau'n ganiataol, gan mor amlochrog yw'r mater. Gellir mewn cyfarfod fel yma gymryd gwir Dduwdod Crist yn gan- iataol, megis y gwnaeth yr Eglwys Fore ac megis y gwneir yn y Testament Newydd. Ac nid oes eisieu dywedyd heddyw y gellir cymryd Ei Ddyndod yn ganiataol, — y mae'r ddadl ar y pen hwnnw wedi ei chloi ers llawer oes. Credwn gan hynny mai doeth fydd cyfyngu ein sylw i un agwedd neu ddwy ar yr athrawiaeth,dwy agwedd y bydd ymdrin â hwy, ni gredwn, yn ddiddorol, ac (ni hyderwn) yn werthfawr i ni heddyw: (i) Ei Gynfodolaeth fel Mab Duw; (2) Perthynas y Dwyfol a'r dynol â'i gilydd yn Ei Berson, neu athrawiaeth y Ddwy Natur mewn Un Person." 'Papur a ddarllenwyd yn? Nghyfarfod Undeb Gweinidogion Cymreig Liverpool a'r Cylch, yn Grove Street (A.), Ebrill 10. ioi^.