Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

METHODISTIAETH ARFON.1 Os bu Cyfarfod Misol Methodistiaid Arfon dan ysbrydol- iaeth erioed, fe fu pan benododd y Parch. William Hobley i 'sgrifennu hanes yr eglwysi sydd o fewn ei derfynau. Buasai ambell un dan demtasiwn i gwyno fod y gwaith wedi ei oedi cyhyd, fod y Cyfarfod Misol neu Mr. Hobley, ag arfer gair Hwmffre William, wedi gweiddi ffeiar lawer gwaith cyn saethu; ond pen ddechreuodd y gwaith ddyfod allan gwelwyd ei fod yn un gwerth disgwyl am dano, ac wedi ei ddechreu y mae yn dyfod trwy'r felin yn gyflymach nag yr ofnai rhai. Dyma'r drydedd gyfrol, ac y mae hon yn gorffen hanes dau Ddosbarth, sef Dosbarth Clynnog a Dosbarth Caernarfon. Tebyg y cynnwys y gwaith i gyd pan gwblhaer ef dair neu bedair cyfrol eto a gwell hynny na bod y cyfrolau yn anhylaw o fawr. Y mae gwahanol fathau o hanesyddion, y chwiliedydd manylgraff diwyd, yr hanesydd athronyddol, sydd yn deongli hanes wrth ei adrodd, y darluniwr hanesyddol. Ceir yn Mr. Hobley gyfuniad o'r amryw ddoniau hyn. Fe gwynai Thorold Rogers yn erbyn Green a Gardiner, yr haneswyr athronyddol, eu bod yn rhy chwannog i adael o'r cyfrif bethau a wnaeth fyd o wahaniaeth yn eu hadeg. Yr oedd gan yr haneswyr hyn, meddai Rogers, eu system, megis ffrâm i weithio'r hanes iddi; ond gwnai un cynhaeaf drwg fwy o wahaniaeth gwirioneddol na hanner y pethau y rhoent hwy bwys arynt. Buasai Hobley mi goeliaf, yn ddigon o ystadegydd gan Rogers, ac yn ddigon o athronydd gan John Richard Green. Fel pob hanesydd o'r rhes flaenaf fe gred nad yw hanes cymdeithas, yn y pen draw, namyn hanes dynion; ac y mae yn ei afiaith a'i oreu wrth ddisgrifio dynion. Dywed ei farn wrthym, ym mhob man, naill ai ar ddechreu'r bennod, neu wrth adrodd yr ystori; a mwy na hynny, yr ydym yn cael yr ystori i fesur mawr yng ngeiriau y rhai y mae'r hanesydd yn ddyledus iddynt am dani. Y tebycaf iddo yn hyn ydyw York- Powell, hanesydd sydd yn ymddigrifo mewn adrodd hanes yng ngeiriau'r hen groniclau y codwyd ef o honynt. I ddechreu cawn bennod 0 naw tudalen a deugain ar dref Caernarfon. Bydd hon yn bennod werthfawr i fil- 'Hanes Methodistiaeth ARFON. Dosbarth Caernarvon. Eglwysi'r Dref t/ui Cylch. .°'r Dechreu hyd Ddiwedd y Flwyddyn 1900. Gan w. Hobley. Cyhoeddedig gan Gyfarfod Misol Arfon. mcmxv.