Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Fe gyrraedd gair arferedig iawn ryw gyfnod pryd y mae yn rhy ystrydebol i ddeud dim neilltuol wrth neb. Y mae meistrolaeth Mr. Hobley ar deithi ac adnoddau'r iaith Gymraeg, yn ei hamrywiaeth ac yn ei chyfoeth, yn dra hysbys i bob darllenydd. Nod rhagor ar Gymraeg da yw defnyddio llawer ar y berfenw; ac y mae'r llyfr yma'n dryfrith o'r briodwedd honno. Ni wn ai myfi ai Mr. Hobley sy'n iawn; ond gwell fuasai gennyf fi iddo fod yn gynilach o'r gyda." Along with, ac nid with, ydyw "gyda." Y mae yn rhyddach nag arfer, wel yn y gyfrol yma, bron yn hollol rydd, oddi wrth yr unig nam arall sy ar ei briodwedd, sef dodi'r ffurf wrthodedig, hwn a hwn a ddywed," heb fod pwyslais y frawddeg yn gofyn hynny; ond y mae hynny'n ddefod bur hen yn yr iaith cyn hyned, meddir, a'r Llyfr Coch; ac y mae ysgrifenwyr mor glasurol a Lewis Edwards yn bur chwannog i'w dilyn. Myn rhai fod dechreu'r frawddeg ag enw, yn lIe â berf, yn fwy urddasol. Yr unig reswm, heb law esiampl Geir- iadur Charles, a'r Dr. Edwards, paham y teimlant felly, ydyw eu bod yn gynefin a gweld y briodwedd anghymro- aidd yna yn y Beibl Cymraeg. J. PULESTON JONES. MISERERE, DOMINE! GRIST, Arglwydd yr Arglwyddi, Rho dy nawdd, a gwared ni; Ped fai traws, pe deufwy trom Iau dy deyrnas, dod arnom, Am dy fyw, ym myd y fall, Yn dda, yn lân, yn ddiwall, Yn bur 0 galon a barn, I gyd yn ŵyl, yn gadarn, Yn gyfion heb ddiglloni, Yn wâr heb ein gwendid ni! Dod arnom iau dy deyrnas Megis na bom gas na bas; Heb wae mwy, fel y bom wir, Heb un gau, yn byw'n gywir; Nad arferom drwy fwriad Na gwegi na bryntni brad,