Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

METHODISTIAETH A LLENYDDIAETH GYMREIG. AMCAN syml yr ysgrif hon, a'r rhai sydd i ganlyn, fydd ceisio dangos y cyfraniad a wnaed gan Fethodistiaid Calfinaidd i Lenyddiaeth Gymreig. Er pob tuedd a ddangosir yn achlysurol i feirniadu ac ymosod ar y Cyf- undeb hwn erys y ffaith ei fod wedi cyflawni ei ran yn anrhydeddus tuagat gyfoethogi ein Llenyddiaeth. Wrth ddweyd hyn ni fwriedir awgrymu fod canghennau cref- yddol eraill Cymru yn fyr neu yn ddiffygiol-gwyddom yn amgen, a diau iddynt hwythau, pob enwad yn ei ddull ac yn ei gylchoedd ei hun, gyflawni eu rhan yn deilwng. Ond yr amcan heddyw yw dangos perthynas y Methodistiaid Calfinaidd â Llenyddiaeth Cymru, a theg ydyw cofio am y Cyfundeb hwn, pan y cychwynnodd, ei fod yn cychwyn yn hollol newydd-heb unrhyw hanes blaenorol iddo, cychwyn yng Nghymru am y waith gyntaf gan ffurfio ei hanes yn raddol wrth fyned yn y blaen. O ganlyniad prin y gellir cymharu, gan fod y cyfundebau crefyddol eraill wedi cychwyn yn flaenorol yn Lloegr. Anheilwng a fuasai amcanu lleihau gwerth llafur Griffith Jones, Llanddowror, a'r Ficer Prichard, ac hefyd lafurwyr yr enwadau Ymneill- tuol eraill, oddeutu cant-a-hanner ac ychwaneg o flynydd- oedd yn ol, &c., erys eu gwaith yn ei ganlyniadau bendith- iol tra y parha cenedl y Cymry; a gwelir ar unwaith oddi- wrth hyn mai nid cymharu llafur llenyddol y Methodistiaid â llafur pobl eraill fydd yr amcan, eithr dangos fod y Cyf- undeb Methodistaidd, a dweyd y lleiaf am dano, wedi gwasanaethu Llenyddiaeth Cymru. Cymerir yn ganiataol fod gan Gymru ei Llenyddiaeth. ac wrth Lenyddiaeth y golygir fod cynhyrchion y meddwl yn cael eu dodi mewn argraff i'w darllen, ysgogiadau yr enaid, adsain y galon ddynol­-y pethau hyn oll fel y cyf- leir hwy i'w darllen: medd rhai allu i ysgrifennu, er ar- weiniad a lles i eraill, ddyheadau dyfnion y dyn oddifewn, teimladau dwys a chysegredig a dramwyent ol a blaen yn yr ysbryd, ysgrifennir ac argreffir hwy mewn llyfr, neu gylchgrawn, neu newyddiadur, a dyma ein Llenyddiaeth, a gwasanaetha hyn oll er dwyn y darllenydd i adnabod ei hun, ac adnabod y natur ddynol, a chynorthwya i adnabod Duw. Yn ol y wedd hon o edrych arni, teimlir yn hyderus