Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWAS YR ARGLWYDD." II. YSTYRIwN yn awr yr ail ddosbarth o ddamcaniaethau am "y Gwas," sef y rhai a olygant mai personoliad ydyw o syniad cyffredinol (a personificd collcctwe idea). Gall y math yma fod yn un o dair ffurf. i. Mai yr oll o'r genedl fel y bodolai yn yr hanes yw'r Gwas." Yn ol y syniad hwn nid yw y Gwas yn syml ond enw arall ar Israel, pobl ddewisedig Dduw ym mhlith y Cenhedloedd. 2. Mai nid yr oll o'r genedl yw'r "Gwas" ond rhyw un rhan o honi, y rhan honno o'r genedl oedd yn ffyddlon i'w Duw ac i'w chenhadaeth. 3. Mai nid yr oll o'r genedl fel y bodolai yn yr hanes ac nid unrhyw ran o honi, fel y cyfryw, ydyw "y Gwas," ond y genedl fel y dylai fod-Israe1 yn ol y delfryd neu'r cynllun o honi (the ideal Israel), eu Israel fel y bodolai ym meddwl a bwriad Duw." Gwelir ar unwaith y gellir cyfuno y drydedd ffurf hon a'r naill neu'r llall o'r ddwy gyntaf. Fel canlyniad ceir dwy ffurf sy'n rhyw gyfaddawd rhwng damcaniaeth hanes- yddol ag un ddelfrydol, sef, 4. Mai Israel ddelfrydol ydyw'r Gwas," ond nid y delfryd yn yr awyr, fel petae, ond y delfryd fel y cadd eisys ei sylweddoli yn yr 0ll o'r genedl. 5. Y delfryd o Israel i'r graddau yr oedd wedi ei sylweddoli nid yn yr oll o'r genedl ond yn y gweddill duw- iolfrydig (the pious remnant). Hyd y gwelwn, cymer pob un o'r damcaniaethau a geir yn yr ail ddosbarth ryw un neu'i gilydd o'r pump ffurf uchod. Ond nid ydym eto wedi cael diben ar y damcan- iaethau! Y mae yna un sy'n rhyw gyfuniad o'r ddau ddos- barth. Dyma'r un fabwysiedir gan y Dr. G. A. Smith. Mynn ef i'r proffwyd gychwyn gyda'r syniad mai'r genedl ydoedd "y Gwas," ond yn raddol, fel y tywynnai goleuni datguddiad fwyfwy i'w feddwl daeth i gyfyngu y syniad at ryw ran o'r genedl-y rhan ffyddlawn o honi,­-ac yn y diwedd, wedi sylweddoli o hono nad oedd unrhyw ran, hyd yn oed yr un fwyaf duwiolfrydig o honi, yn dod i fyny â gofynion y delfryd a ddatguddiwyd iddo, ffurfiodd y