Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NEFOEDD YR EMYN. Pa genedl sydd, ac eithrio cenedl Israel, a swynwyd yn fwy gan y nef na'r genedl Gymreig? A siarad yn gyff- redinol câr y Cymro'r nef fel y câr ei wlad ei hun. Cysgod o'r nefoedd oedd Caanan i'r Iddew, a dyna yw Cymru i'r sant Cymreig. Dau deimlad brwd yn ei fonwes yw gwladgarwch a nefgarwch. Ac yn y cyfuniad o'r ddau hyn y mae gogoniant bywyd iddo ef. Sieryd y Cymro am y nef yn nhermau ei fywyd cyff- redin yng Nghymru: sonia am gadw noswyl ac am orffwys wedi diwrnod o waith crefyddol. Nos Sad- wrn." Ie, a Sadwrn Tal" yw mynd i'r nefoedd iddo. O holi a gwrando profiad y sant yn y seiat heddyw tybiaf, er hyn, y gwelir ôl dirywiad erchyll yn ein syn- iadaeth am y nefoedd. Nid ydym, fe ddichon, yn caru'r nef yn llai na chynt. Ond y mae'r nef a gerir gennym heddyw yn llawer mwy annheilwng o'n serch na'r nef- oedd a gerid ddoe. Nid yw agos mor ysbrydol a dwyfol. Yn wir, nid oes gan lawer ohonom syniad uwch am y nefoedd na Gardd Bleser y byd paganaidd, nid yw ein syniad am dani yn dangos digon o wahaniaeth rhwng Cristionogaeth a Phaganiaeth. Pwy sy' gyfrifol am y dirywiad hwn ? Dichon fod peth ohono i'w olrhain i ddistawrwydd y pulpud: ac i hwnnw yn ei dro ddistewi ar fater a ystyrid yn anym- arferol gan yr Ysbryd Newydd, ac a gyhuddai y pulpud yn y wlad o sky-piloting. Rhoddir mwy o le i'r nef- oedd fel sefyllfa yn hytrach na lIe. Nid bod yn rhywle, ond bod yn rhywbeth ydyw: tŵf ydyw allan o garictor moesol y dyn ei hun yn hytrach na rhywbeth a chwan- egir at fywyd ar ei derfyn. Diau fod hyn oll yn wir, ond darn o'r gwir yw. A meddiannwyd y nefoedd fewnol hon ar draul colli'r nefoedd fel "lle gogoneddus a hyfryd." Ond credwn mai prif achos y dirywiad hwn yw dysg- eidiaeth yr Emyn. Ychydig sydd o ddarllen y Beibl yn y wlad y dyddiau hyn. Hen adnodau gan mwyaf geir yn y seiat; a'r rhai hynny yn ychydig iawn. Yr Emyn ym mawl y Saboth yw unig athro crefyddol Cymru am y nefoedd. A chredwn mai athro amherffaith yw. Nid ydym yn diystyru arucheledd y farddoniaeth yn yr