Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU. DUWINYDDIAETH Y TESTAMENT NEWYDD, gan y Parch. lames Charles, Dinbych. Hughes Brothers, Dolgellau. Cyn i ni ddweyd dim am gynnwys y gyfrol brydferth a gwerth- fawr hon hoffem gyfeirio yn gynnil at ei hiaith. Y mae yr arddull yn llyfn a naturiol, a'r iaith yn seml ac ystwyth. Ond nid yw yn ddifrychau. Nodwn ychydig enghreifftiau. Yr oedd yn galondid dirfawr i ni o weled." Gwir y dywed Garvie," yn lle, Gwir a ddywed Garvie." "Y rhai y credent ynddo "-dau gamgymeriad "y rhai a gredant ynddo" fuasai'n gywir. "Ag" yn lle "ac"- tud. 23. Ar wahan a'u gilydd." Nac yn lle nag "-tud. 67. Gael yn lle yn cael." Cyfiawnhau dros." "Mai yn ddi- niwed oedd," yn lle mai diniwed oedd." Mae yr enghreifftiau hyn o rannau cyntaf y llyfr. Ceir yma ambell frawddeg gloff os nad di- ystyr. Er enghraifft Y mae Duw yr Hen Destament, yn ol y dad- guddiad uchaf am dano, ac adnabyddiaeth Moses, a'r Salmydd, a'r proffwydi o hono, sef dynion pennaf a goreu, yn cael eu dwyn yn mlaen i'r Testament Newydd." Rhaid edrych ar bob llyfr yng ngoleuni amcan a chynllun ei awdur. Wrth i ni edrych felly ar gyfrol y Parch. James Charles ar Ddiwinyddiaeth y Testament Newydd gwelwn mai "agoriad" i'r pwnc ydyw, ac agoriad heb fod mor lafurfawr a'r bwriad gwreidd- iol." Hyn, yn ddiau, a gyfrif am y peth deimlwn ni sydd yn ddiffyg yn y llyfr. Wrth edrych dros y Cynwysiad" disgwyliem fwy, mewn ambell i adran, nag a gawsom. Anodd meddwl am bynciau pwysicach, ac agosach at galon pob dyn deimla hoffter at ddiwin- yddiaeth, na'r pynciau y ceir rhestr o honynt yng Nghynwysiad y gyfrol hon. Ond y mae'r ymdriniaeth, yn arbennig yn y rhannau cyntaf, yn gogwyddo at fod yn brin, ac annigonol. Rhaid oedd iddi fod felly i ryw fesur, oblegid y mae'r maes yn rhy eang i un gyfrol. Wrth ddweyd fel hyn nid ydym yn anghofio fod yma, yn fynych, wedi ei wasgu i baragraff byrr, doreth o gyffyrddiadau sydd yn awgrymu llawer. Yn rhannau olaf y llyfr y mae yr ymdriniaeth yn llawnach. Carasem iddi fod felly ar lawer pwnc. Methwn a gweled un rheswm dros gysylltu y syniad o fabolaeth â'r ddyn- oliaeth yn gyffredinol." Oni chyffyrddir yma â phwnc rhy fawr, a rhy agos i galon diwinyddiaeth y T. N. i'w adael fel yna? Ac onid oes yn y gyfrol ei hun awgrymiadau y dylid cysylltu'r syniad o fabolaeth â'r ddynoliaeth yn gyffredinol? Dywedir (tud. 49) mai "fel mab yr oedd dyn yn dwyn delw Duw yn ei greadigaeth," ac, ar tud. 119, fod rhyw gymaint o ddelw dyn yn ei gread yn aros." Ond tybiwn y gallesid hebgor yr ymdriniaeth ar y cwestiwn a fuasai Crist yn ymgnawdoli pe na phechasai dyn, am nad yw, yn ein barn ni, yn perthyn i ddiwinyddiaeth y T. N. Un o ymholiadau cywrain meddwl dyn yw hwn, ac y mae ei drafod yn anghyson â gosodiad sylfaenol yr awdur mai'r datguddiad yng Nghrist yw'r awdurdod derfynol mewn crefydd. Ni ddywedodd yr Iesu, na neb o'i apostolion, hyd y gwyddom, ddim ar y pwnc. Peth ofer yw gofyn beth fuasai cynllun Duw pe na buasai rhywbeth a ddigwydd- odd wedi digwydd oblegid y mae ein syniad ni am Dduw a'i ffordd o weithio yn ein gwahodd i dybied fod ganddo ddau gynllun cyf- °chrog, un i'w roddi mewn gweithrediad os digwydd rhywbeth ddichon ddigwydd, a'r llall os na ddigwydd. Un cynllun fu ganddo Ef erioed ar gyfer y byd, ac yn y cynllun hwnnw yr oedd yr Ym-