Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gnawdoliad a'r Marw. Ymddengys i ni nad oes fawr o ystyr mewn dweyd, Heb Ymgnawdoliad, heb oleuni ar Dadolaeth Duw." Ni wyddom pa oleuni fedrai dyn dderbyn pe na phechasai. Yn y byd yr oedd Efe." Eto, cyfrol o werth mawr yw hon. Y mae Mr. Charles yn ar- weinydd diogel, a rhoddem groeso cynnes i gyfrol helaethach o'i waith ar unrhyw ran o'r maes eang yr eir drosto yn y gyfrol hon. Y mae yn hyddysg iawn yn llenyddiaeth oreu y pwnc, ac y mae ganddo farn o'i eiddo ei hun. Fel arweiniad neu agoriad i holl ddiwinydd- iaeth y T. N. ni wyddom am ddim i'w gymharu i'r gwaith hwn. J. O. CREFYDD A BYWYD, gan yr Athro D. Miall Edwards, Aberhonddu. Hughes Brothers, Dolgellau. M.A., Os ceir llyfr yn ymdrin i bwrpas a'r ddau beth enwir uchod, Crefydd a Bywyd, ni all y llyfr hwnnw lai na bod yn drysor o werth mawr. Cafwyd hynny, i raddau pell iawn, yn y gyfrol sydd yn awr ger ein bron. Ysgrifennwyd y llyfr hwn gan wr sydd yn athro mewn Diwinyddiaeth Gyfundrefnol ac Athroniaeth Crefydd." Rhydd hynny i ni hawl i ddisgwyl rhywbeth eithriadol. Ysgrifennir y corff mawr o lyfrau diwinyddol Cymru gan ddynion sydd dan orfod beun- yddiol i fod yn brysur gyda chant a mwy o bethau eraill, ond dyma wr sydd yn cael llonydd gan fyd gweinidogion cyffredin, modd y gallo roddi ei amser yn lled lwyr i'w hoff efrydiau. Un ddadl gref dros beidio lleihau rhif Athrofeydd Diwinyddol Cymru ydyw hon po fwyaf o athrofeydd fedrwn ni gynnal mwyaf oll o ddynion fedr gysegru eu holl amser a'u holl nerth i bynciau mawr y ffydd. Y mae gan y genedl i gyd hawl i ddisgwyl i ddynion felly roddi iddi arweiniad clir a diogel. Mentrodd yr Athro Miall Edwards gynnyg i'w genedl arweiniad felly mewn tri chyfeiriad, mewn Materion Athronyddol, Diwin- yddol a Chymdeithasol." Dyna ddyn dewr, i gychwyn ond ni fu ei ddewrder yn fwy na'i allu. Mae mantoliad y gallu, hefyd, yn gwneud tegwch a'r tair adran, er ein bod yn tueddu i farnu fod yr awdur yn fwy o athronydd nag o bopeth arall gyda'i gilydd. Ni ddarllenasom ddim cliriach, cryfach a mwy angherddol ar y rhyfel, ei achosion a'i berthynas a rhai o gwestiynau mawr bywyd, na thair pennod gyntaf y gyfrol hon. I Henri Bergson a'i athroniaeth y rhoddir y 11e amlycaf yn y rhan athronyddol o'r llyfr, ac y mae yr ymdriniaeth drwyddi yn rhagorol. Ymgodymodd yr athro â rhai o anhawsterau mwyaf diwinydd- iaeth, a gwnaeth hynny yn llawer llawnach o wyleidd-dra yr addolwr nag o hunan-hyder y dysgawdwr. Ni fedrodd yrru pob tywyllwch i ffoi pwy a fedrodd, neu a fedr byth? Ond rhaid chwilio'n hir i ddod o hyd i benodau llawnach o oleuni a chyfarwyddid. Amlwg ydyw fod yr awdur wedi cael hamdden braf i ymgydnabyddu â'r llenydd- iaeth oreu ar y gwahanol bynciau drinir ganddo. Y mae ganddo genadwri werthfawr hefyd ar gwestiynau cym- deithasol, ac y mae yr ymdriniaeth yn y rhan yma, fel yn y rhannau eraill, yn llawn o ysbryd Efengyl Crist. Mae'r llyfr drwyddo wedi ei ysgrifennu mewn iaith gref, ystwyth a gloew. Mae ynddo ychydig yn rhagor o wallau nag a gywirwyd ar y diwedd. Arferir "oedi" yn fynych yn lle "aros." Ceir brychau fel hyn: "hi" am orchymyn (tud. 15); awyrgylch yn wrryw ar tud. 25, ond yn fenyw ar tud. 35 ffurf yn wrryw ac yn fenyw ar yr un tudalen (49). Yn ein barn ni y mae brawddeg ar tud. 116 yn ymylu, 0 leiaf, ar fod yn ddi-chwaeth Mae gormod o fêr y Duwdod yn esgyrn y byd, &c." Teimlwn ryw ias ym mer ein hesgyrn