Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ninnau wrth ddarllen brawddeg fel yna. Brawddeg od yw hon ar yr un tudalen Nid talp o anffyddiwr di-dduw yw'r cread, ond plas y Goruchaf." Nid oes dim cyterbyniad o fath yn y byd rhwng an- ffyddiwr, er iddo fod yn dalp," a phlas. Dyna un arall (tud. 122) "Rhyw feddwl heb feddyliwr ydyw; yn hofran yn v gwagle fel pererin digartref." Pwy erioed welodd bererin digartref yn hofran yn y gwagle? Ond biychau ysgafn yw'r pethau hyn ar lyfr sydd yn rhagorol yn ei iaith ac yn dra gwerthfawr yn ei gynnwys. J. O. THE LIFE ROMANCE OF LLOYD GEORGE, by Beriah Evans. London: "Everyman," 11, Warwick Lane, E.C. Price, 2/- net. Yn ei ragymadrodd i'r gyfrol dywed y Dr. Charles Sarolea, y Belgiad amlochrog a golygydd Everyman," mai gyda gweddau cenedlaethol ac ymerodrol oes a gwaith Mr. Lloyd George yn bennaf yr ymdrin Mr. B. Evans, tra y carai efe, Sarolea, ychwanegu gair ar yr ochr gydgenedlaethol i'w genhadaeth a'r lle a chwery ein cyd- wladwr clodwiw "fel llys gennad Pobl Prydain yng nghynhadledd Heddwch y dyfodol agos." Myntumia ef y saif y Cymro dros gyd- weithrediad parhaol â Ffrainc a democratiaeth, am mai efe yw gwleid- ydd mwyaf gwerinol yr Ymerodraeth Brydeinig. Gwnaeth ei enw bellach yn anatodol un â deddfwriaeth y werin, â dyheadau y werin ac â dulliau y werin, yn fwy felly nag odid un gwr arall. Napoleon ydoedd milwr arfog y Chwyldroad. Gambetta ydoedd Tribun dewisol y Drydedd Weriniaeth. Lloyd George ydyw ar- eithydd yr Urdd Gymdeithasol newydd." A hyn am ei fod ei hun yn werinwr ac yn Gelt. Ei ddelfrydau a'i ddyheadau ef yw yr unig rai all ddadlenu y wir drefn gydgenedlaethol ar gyfer yfory. Daw Mr. Beriah Evans i gasgliad tebyg yn niwedd ei gyfrol. Mae yr awdur wedi ei gyffwrdd i fesur gan ramant bywyd ei wrthrych, ac yn ysgrifennu o dan ei ddylanwad. Mae'r arddull yn rhydd a darllenadwy dros ben. Caiff y darllenydd ei hun dan gyf- aredd ei hud-lath a denir ef ymlaen drwy gydol hynt ei arwr yn hyfryd a difyr. Teimlir ar brydiau fod safbwynt yr awdur yn lled feirniadol, er nad yn anghyfeillgar, a gofalir rhoddi pennod ac adnod" allan o areithiau Mr. Lloyd George ei hun, i egluro pob symudiad o'i eiddo a ymddengys megis cyfnewidiad neu gysgod trc- edigaeth. Gwelir fod yr awdur ei hun dan ddylanwad yr elfen an- nisgwyliadwy yn ymdaith ei wrthrych, e.g. :­- And yet, mayhap, his coquetting with Socialism is more plainly evidenced in his speeches than in his legislation.’’­Tudalen 178. In the whole of his kaleidoscopic career there has been no more striking a transformation, none appealing so strongly to the public imagination, as that which changed the Apostle of Peace of 1900 into the Minister of Munitions of 191 5. His only claim to practical know- ledge of military affairs rests in a short period of service with the Volunteers, in the days of his callow youth. Militancy was ever congenial, militarism abhorrent to his nature. Thus while he was always ready to fight to the death for peace, he would not submit in peace to oppression. In all matters pertaining to war he presents a perpetual paradox. The man who was all but crucified for his peace propaganda fifteen years ago, is hailed to-day as the one man next to Lord Kitchener upon whom rest the military fortunes of the Empire. When the Kaiser last visited England he would have patronized Lloyd George had Lloyd George been a person to accept patronage even from a Kaiser. But though the Welsh statesman, born in a cottage, would not accept patronage even from the German