Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. HIRAETHGAN. AR OL Y PARCH. EVAN JONES, CARNARVON. A mi ym mhell o Gymru gu, Tu hwnt i'r don, Ti groesaist yr Iorddonen ddu I'r Ganaan lon; Trist i mi dy ymadawiad, Heb yr olaf ymgyfarchiad, Aethost pan y daeth yr alwad,, Heb un cwyn; Yr oedd hwyrddydd dy fachludiad, Gyfaill mwyn Gwron llawer ymosodiad, Yn llawn swyn. Wylaf yma 'mhell o dref, Ddagrau'n Hi', Am dy symud fry i'r nef, Heb i mi Mwy dy weled yn y cnawd, A chael croesaw'n ol gan frawd: Fe fydd Cymru i mi'n dlawd, Heb dy wedd, Er dy fod yn uwch dy rawd Hwnt i'r bedd. Trist yw dagrau pell fel hyn, O fy ngwlad, Am dy fyned trwy y glyn, O fy nhad Heb i mi fod yn dy arwyl, Rhwng hen fryniau Maldwyn annwyl, Lle yr est i gadw noswyl, Ac yn llwyr Orffwys, wedi gwneud dy orchwyl Cyn yr hwyr.