Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON. ADGOFION PERSONOL. Y waith gyntaf imi weled Mr. Jones ydoedd pan yr oedd ef a Mr. Lewis Jones (Patagonia) yn argraffu yng Nghaergybi. Daeth ef a Mr. Lewis Jones ac Edward Foulkes (Yr Hen Ddyniwr) i'r pentref lIe y'm magwyd i agor Cymdeithas Lenyddol fechan i ni. Ychydig o honom oedd yn bresennol, ac mae'n debyg nad oes ond un arall i'w gael o'r rhai oeddynt yno. Cawsom anerchiad gan bob un o'r tri. Yr wyf yn meddwl mai Mr. Foulkes siar- adodd yn gyntaf. Nid oes gennyf gof am ddim o'i an- erchiad ef. Mi sylwais am y tro cyntaf erioed ar ryw symudiadau hynod yn ei lygaid na welswn rai cyffelyb yn llygaid neb arall. Pan yn siarad yr oedd fel pe buasai un par o lygaid yn dianc o'r golwg tuag i fyny, ac un arall yn cymeryd eu lle ac fe newidiai hynny yr olwg ar ei holl wynepryd. Gan Mr. L. Jones yr oedd yr anerch- iad mwyaf cyflawn, a'r un a'r mwyaf o ol paratoi arno. Ei brif bwynt ef oedd ein rhoddi ar ben y ffordd i gymeryd i fyny ryw un gangen neilltuol 0 wybodaeth. Siaradodd gryn lawer ar fferylliaeth, fel un o'r canghennau hynny. Siaradai ef yn ofalus ac yn fanwl, fel pe buasai yn rhy ym- wybodol braidd o hono ei hun; ac eto yr oedd ei anerchiad yn un hynod o bwrpasol i ni ar y pryd. Y diweddaf i siarad oedd Mr. E. Jones, ac efe wnaeth fwyaf o argraff arnaf fi, ac ar eraill hefyd, mi gredaf. Yn ol pob cof sydd gennyf am dano, yr oedd ar y pryd yn ddyn ieuanc yn tueddu at fod yn eiddil ac ysgafn ei gorff. Yr oedd ei wallt yn wineu, a'i wyneb yn yrfal (oval), yn hytrach nag fel arall. Tynnai 'ein sylw ar unwaith. Siaradai ef yn rhwydd a naturiol, a gwên braidd ddireidus ar ei eneu. Nid wyf yn cofio fawr ddim am gorff ei anerchiad, ond, yn ei ddiwedd, cymhellai ni i gymeryd golwg oleu ar fywyd, ac i fod yn llawen gyda'r rhai fyddant lawen ac i chwerthin yn galonnog pan ddeuai yr hwyl i hynny, a hynny hyd nes mynd i ddyfnder ein dyn oddimewn, Ac ysgwyd bol a gwasgod oddiallan. Dyna'r unig dro i mi glywed y llinell yna. Bum yn son wrth Mr. Jones am y cyfarfod, ac am y llinell un o'r troion diweddaf i mi fod yn ei gwmni, ac yr oedd