Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

METHODISTIAETH A LLENYDDIAETH GYMREIG. Cyn cychwyn gyda'r ail ysgrif i drafod y Cylchgronau yn meddu cysylltiad Methodistaidd, caniataer i ni wneud tri sylw -(a) Ceir sicrwydd erbyn hyn i'r rhifyn cyntaf o'r Herald Cymraeg" ddyfod allan Mai içeg, 1855 (ac nid 1854), ac hefyd ar Hydref 30ain (nid Tachwedd 4ydd), 1869, y daeth allan y rhifyn cyntaf o'r "Goleuad"; y Parch. John Williams, Amlwch (nid Dwyran), ydoedd brawd y diweddar Mr. W. Williams, argraffydd, Dol- gellau; ac hefyd deallir yn awr na fu Anthropos yn golygu Yr Amseroedd," a drwg gennym am y camgymeriad, ond ein sail ydoedd fod y Parch. Evan Jones, Caernarfon, wedi hysbysu hynny yn ei "Adgofion," yn "Y Genedl Gymreig," am Hydref 5ed, 1913. (b) Er fod y testun yn eang, ac yn cymeryd i fewn Lenyddiaeth Gymreig yn gyff- redinol, eto ar gyfrif prinder gofod rhaid cadw yn awr at derfynau Cymru, er mor ddiddorol a fuasai cael cyfeirio at gylchgronau Methodistaidd yn America, Bryniau Casia, ac Awstralia, ac at y gwaith da a wneir drwyddynt yn wyneb llawer o anfanteision. (c) Gan y cofir mai amcan yr ysgrifau hyn yn syml ydyw cyfeirio at gyfraniad y Methodistiaid i Lenyddiaeth Gymreig, ni ellir aros ar hyn o bryd gyda hanes y cylchgronau-nid dyna yr amcan yn awr, a rhaid boddloni yn unig ar hysbysu eu henwau, eu dyddiad, a'r golygwyr, er mai dymunol a fuasai cael hamdden i roddi y manylion yn llawnach. Ond nid heddyw. Bellach symudir ym mlaen i edrych ar berthynas y Cyfundeb â'r cylchgronau Cymreig; ac er mwyn eglurder a chyfleustra edrychir arnynt dan dair adran. I. Oyichgromu a rhan amlwg gan Fethodistiaid meiun rhoddi cychwyn iddynt. "Trysorfa Gwybodaeth, neu Eurgrawn Cymreig," Mawrth, 1770, pymtheg rhifyn a ddaeth allan, a'r prif olygydd ydoedd y Parch. Peter Williams, yr Esboniwr; Pethau Newydd a Hen," 1826-9, a'r golygwyr oeddynt y Parch. Richard Newell, Meifod, a Mr. Morris Davies, Bangor; "Yr Athraw," 1829, golygydd-Parch. W. Rowlands, Pontypool, Dr. Rowlands, New York, wedi