Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CHARLES DICKENS YM MON. i. Nid wyf yn cofio gweld mwy nag un cyfeiriad byrr at ymweliad Charles Dickens â Chymru mewn unrhyw gy- hoeddiad Cymreig, ac y mae'n rhyfedd hynny pan ystyr- iom fod yr ymwelydd yn un o enwogion pennaf y ddaear ac achlysur ei ddyfodiad cyntaf i'n gwlad yn un o'r rhai hynotaf a thristaf yn ei hanes hi. Ni rydd ei fywgraffydd John Forster fwy na rhyw hanner llinell mewn ffordd o gofnodiad o'r ymweliad hwn. Ond rhoes y nofelydd ei hun yn un o benodau mwyaf tarawiadol ei lyfr, The Un- commercial Traveller, hanes lled fanwl o'r ymweliad tan sylw,-yn neilltuol yr hyn a'i hachlysurodd,-ac o bosibl nad anniddorol i ddarllenwyr y TRAETHODYDD fyddai rhyw fath ar ail-adroddiad ohono. Parthed y llyfr a enwyd, casgliad yw o atgofion ac argrafiìadau'r awdur a ym- ddangosodd ar y cyntaf yn gyfres gyson yn ei gyhoeddiad wythnosol, All the Year Round, a cheir yn yr ysgrifau hyn oleuni lawer ar dymor ei ieuenctyd ac ar ddatblygiad ei feddwl a'i brofiad yn y blynyddau dilynol. Nid oes bennod braidd, heb ei diddordeb personol. ys dywed y Sais. Er enghraifft, fe'n hysbysir ymysg pethau ereill pa ryw fodd- ion arferodd Dickens er trechu'r anhwyldeb blin, diffyg cwsg y dioddefasai gymaint oddiwrtho yng nghanol pryd- eron y rhan olaf o'i oes. Rhaid oedd ymladd y gelyn nid yn y gwely ond allan ohono, trwy godi'n ebrwydd ar ol gorwedd, mynd allan a dychwelyd adre'n flinedig gyda'r wawr. Fy ngorchest bennaf yn ddiweddar," meddai Dickens, oedd troi allan o'm gwely ar ol diwrnod caled o waith a cherdded deng milltir ar hugain i'r wlad i frec- wast." Gyda golwg ar deitl y llyfr, The Uncommercial Travel- ler, dywed Forster ei fo-ü yn dynodi hoffter personol Dickens o'r teithwyr masnachol fel dosbarth, ac o'u cym- deithas, y Commercial Travellers' Benevolent Society (sy'n llewyrchus heddyw) y gwnaeth gymaint drosti. yn ogystal ag o'i thrysorydd abl. uniawn, ac annwyl, Mr. George Moore. Dug Dickens y dystiolaeth uchaf iddo. "Y mae uniondeb. anturiaeth. ysbryd cyhoedd a