Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HEN OLYGYDD (1783— 1867). 1. DDENG mlynedd a thrigain yn ol, pan gyfeirid at yr Hen Olygydd," ni ofynnai neb pwy olygid, mwy nag y gofyn- nid yn ddiweddarach pwy ydoedd y Gohebydd." Erbyn hyn dichon y dylid dweyd mai yr Hen Olygydd ydoedd y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones, Dolgellau, gol- ygydd cyntaf y Dysgedydd. Ni allasai neb, y mae'n ddiau, ddweyd pa bryd y dechreuwyd edrych arno fel henafgwr; ac y mae'n bosibl y gellid dweyd am dano ef, fel yr arferai y Parch. Robert Ellis o'r Brithdir ddweyd am yr Hybarch James Jones. Abermaw, mai yn hen y ganwyd ef. Unig blentyn John a Dorothy Cadwaladr, Deildre Ucha, Pennant-lliw Bach, Llanuwchllyn, ydoedd Cad- waladr Jones, lle ganwyd ef ym mis Mai yn y flwyddyn 1783. Yng nghanol aruthredd a harddwch y cwm. yn swn murmur ffrydiau'r llechweddau, ac yn awelon iach y mynyddoedd, tyfodd Cadwaladr i fyny yn fachgen iach, cryf a heinyf. Daeth yn fuan i deimlo diddordeb yn chwareuon y gymdogaeth, ac ymhlith plant y cwm nid oedd neb cyflymach ar ei droed na mwy medrus mewn campau na Chadwaladr y Ddeildre. Ni bu ei rieni erioed yn proffesu crefydd, a theimlent yn fwy ffafriol i'r Eglwys Sefydledig nag i'r Ymneilltu- wyr. Yn y flwyddyn 1794, pan oedd Cadwaladr Jones yn unarddeg mlwydd oed, symudodd y Parch. George Lewis, D.D., Caernarfon, i Lanuwchllyn, i gymeryd gofal yr achos yno, yr hwn fu yn llafurio yn y cylch gyda chym- eradwyaeth mawr dros ddwy flynedd ar bymtheg. Dywedir yr arferai pobl ddylifo yn lluoedd o'r cymoedd, rhai ar feirch, eraill mewn cerbydau, ond y mwyafrif ar draed, i wrando arno yn oedfa fawr bore Sul yn yr Hen Gapel. Yno y cyrchai bron bawb o Pennant-lliw i wran- daw, ac yn eu plith Cadwaladr Jones. Daeth yn fuan i deimlo diddordeb mawr yn ei weinidog, ac yr oedd yn un o'i wrandawyr mwyaf astud a meddylgar. Ym mis Mai, 1803, pan oedd efe yn ugain mlwydd oed, derbyniwyd ef yn gyflawn aelod o'r eglwys yn yr Hen Gapel. Ymhen tair blynedd anogwyd ef i roddi prawf ar ei ddoniau pre-