Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DAW TRO AR FYD. GAEAF sydd heddyw'n teyrnasu'n llym Gwgus ei drem, ac angeuol ei rym, Gwywo wnaeth anian-gwywo gan fraw, Ochain mae'r gwynt yn y gelltydd draw. Ond paid digalonni fy ffrynd, Fe ddaw tro ar fyd, Fe ddaw tro ar fyd, Bydd ei orsedd ar fyr wedi mynd. Cei weled y gwanwyn yn cerdded drwy'r coed, Ac ysbryd paradwys yn dyfod i'w oed; Rhwymir y cawr fu'n dy flino cyhyd, A daw tro ar fyd. Adfyd sydd heddyw'n cymylu y nen, Geirwon yw'r llwybrau, a thrwchus yw'r llen, Sawdlu ei gilydd mae'r troion er gwaeth, Tra un yn llefaru, un arall a ddaeth." Ond paid digalonni er hyn, Fe ddaw tro ar fyd, Fe ddaw tro ar fyd, Mae gwawr y pen draw i'r glyn. Mae'r dolydd gwyrddleision i ddod yn eu trefn, Ac heulwen Rhagluniaeth i ddychwel drachefn. Ac wedi dy buro o'th sorod i gyd, Fe ddaw tro ar fyd. Rhyfel sydd heddyw'n anrheithio'r tir, Erchyll yw crafanc ei fysedd hir. Duw sydd yn gwybod y galar a'r gwaed, Ac ing y cenhedloedd sydd dan ei draed. Ond paid digalonni, fy mrawd, Fe ddaw tro ar fyd, Fe ddaw tro ar fyd, Daw ysbryd y Nef ar bob cnawd. Maluria gweithfäoedd cynddaredd a brad, Bydd temlau'r Milflwyddiant yn llanw pob gwlad; Y blaidd a'r oen a chwareuant ynghyd, A daw tro ar fyd. NANTLAIS.