Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y PARCH. ROGER EDWARDS.1 CUL iawn, a rhagfarnllyd yn wir, yw y dyn nad yw yn gwybod am neb gwir fawr o'r tuallan i'r enwad, neu y blaid, y perthyn iddi. Ac onid oes lle i gredu, fod yna laweroedd yn perthyn i bob enwad, nad agorasant eu llygaid, fel ag i ganfod dim teilyngdod na rhagoriaeth yn neb na pherthyn i'r cylch bach a chyfyng y digwydd- ant hwy droi ynddo ? Ni ryfeddwn ddim, na fydd ambell un o'r dosbarth hwn yn barod i ofyn, Roger Edwards o'r Wyddgrug, pwy ydyw ef? Ni chlywais erioed son am ei enw. Nid oedd yn un o'n gweinidogion NI." Nac oedd, yn ddiau, ond nid yw hynny yn un esgusawd dros eich anwybodaeth am dano. Bu y Parch. Roger Edwards yn un o brif Oleuadau Cymru am dros hanner canrif, ac os na chyrhaeddodd ei oleuni disglair hyd atoch chwi, rhaid eich bod, yn feddyliol, yn llechu yn un o ogofeydd tywyll ac afiach rhagfarn enwadol. Yn sicr ddigon, peth manteisiol ac addysgiadol yw efrydu hanes dynion mawr ac enwog, o'r tuallan i'r enwad y perthynwn iddo. Ceir drwy hynny y fantais o edrych ar bethau o safbwynt gwahanol i'n harfer o edrych arnynt, a thuedda hynny i eangu ein syniadau, ac i ladd ein rhagfarn. Ac os oes rywbeth a ladd ragfarn enwadol, hyn a wna, canfod gwasanaeth a daioni mewn dynion na pherthynant i'n plaid ni 'ein hunain. Dyma yn sicr un effaith o ddarllen hanes bywyd gwr mor enwog, mor ragorol, mor ddylanwadol a gwasanaethgar i'w enwad a'i genedl, ag oedd y diweddar Barchedig Roger Edwards. Buasai yn golled, nid enwadol yn unig, ond cenedl- aethol, pe na chofnadasid hanes bywyd a llafur Mr. Roger Edwards, er addysg i'r oes bresennol ac i oesau a ddel hefyd, o ran hynny. A ffodus iawn oedd sicrhau llenor chwaethus a phrofiadol fel y Parch. T. M. Jones (Gzven- allt) i gyflawni'r gwaith. A dilys y cydnabyddir iddo gyf- lawni y gorchwyl yn dra theilwng a rhagorol. Credaf y daw i fyny a safon uchel bywgraffwyr da a llwyddiannus, trwy roddi y lle amlycaf yn barhaus i wrthrych y Cofiant ei hun. Ac er na lwyddodd i gael cynifer 0 lythyrau Mr. Edwards ag a ddisgwylid, eto gwnaeth y defnydd goreu o'r rhai ddaeth i'w feddiant. 'Cofiant Y PARCH. ROGER EDWARDS, gan T. M. Jones (Gwenallt), Colwyn Bay. Gwrecsam Hughes a'i Fab.