Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CAN MLYNEDD NEWYDDIADURIAETH GYMREIG. I. Y Testun. NID oes angen egluro dim ar y Testun gan ei fod yn hunan eglurhaol. Gan' mlynedd i'r flwyddyn ddiweddaf y gwelodd y Newyddiadur Cymreig ddyhead Cymru yn cael ei sylweddoli ynddo ef. Dengys ei enw beth oedd yn galw am dano. Yr awydd angherddol am wybod yn bryd- lon beth ddigwyddai yn y byd o amgylch. Rhyw newydd hanes ddisgwylid bob tro, ac yr oedd y darlleniad o hono lwyred fel y gwyddai yr hwn afaelai mewn un wythnos neu bythefnos oed mai hen ydoedd heb edrych y dyddiad arno. Pan mae'r cyfle'n brin bydd y defnydd yn well. Darllenwr gwael yw yr un anghofia y tudalen y rhoddodd i fyny heb roddi rhywbeth i'w adgofio. Dyma fel y canodd y prifardd Dyfed i'r pwnc 2. Oediad ei ddyfodiad. "Os ffol a fum i fyned i gost mor fawr er lles i'm gwlad, dybygwn i, y peth lleiaf ellwch ei wneud ydyw esgusodi gwr gwirion. Pwy a wyr flas peth nes ei brofi ? Wele gan hynny, yn dyfod i ofyn eich nodded forwyndod yr ar- graffwasg gyntaf erioed yng Ngwynedd." Cyhoeddodd Lewis Morris ei Dlysau yr Hen Oesoedd yng Nghaer- gybi yn 1738. Nid yw Canon Silvan Evans yn cydweld ar hyn. Ei farn ef ydyw mai yr Eglurhad o Gatecism Cyntaf y Gymanfa," a gyhoeddwyd yn Nhrefhedyn, ger Castellnewydd Emlyn, ydoedd y llyfr Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd yng Nghymru, yn y flwyddyn 1719. Y cy hoeddiad cyfnodol cyntaf ddaeth allan yn Gymraeg oedd yr Eurgrawn, a welodd oleuni dydd yn 1770. Cofnodwn hyn er dangos y bu'r Newyddiadur Cymreig agos gan mlynedd ar ol y llyfr, a phedair a deugain ar ol y cyhoeddiad cof- nodol cyntaf. Rhoddi cyfrif am oediad yr ymgymeriad i. Y Newyddiadur ydyw'r pwnc,- Mae yn egluro'i hunan Rhyw destun Papur, ond a lwnc Destynau'r byd yn gyfan Y mae eu lleoedd iddynt hwy Ar feusydd eang llafur Ond ceir yr oll, a llawer mwy, O fewn y Newyddiadur."