Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR EGLWYS A'R RHYFEL.* PAR y rhyfel trychinebus presennol fod cyfandir Ewrop yn crynu i'w sylfeini. Teimlwn 011 ein bod yn trigo megis ar gopa llosg-fynydd, ni wyddom pa funud y bydd y danchwa fawr yn ein gwasgar i bob cyfeiriad. Newidir pob peth gyda rhyw gyflymder aruthrol. a gadawa yr amgylchiadau yr ydym ynddynt eu hol yn ddwfn ar y byd am amser maith i ddod. Gyda'r amgylchiadau newyddion dygir i'r golwg ddyledswyddau newyddion, ac y mae i'r Eglwys ei dyledswyddau arbennig yn codi ohonynt. Diau y bydd i'r cyffro presennol ddylanwadu yn ddyfnach arni hi nag ar odid ddim arall, fel y mae yn fater bywyd iddi i fod yn fyw i'w dyledswyddau a'u cyflawni. Beth yw y rhai hynny sydd fater tra anhawdd ei benderfynu; ond anturiwn aw- grymu cyfeiriad neu ddau. i. Diau y perthyn iddi ei dyledswydd at y Wladwriaeth mewn argyfwng fel hyn. Un o'r drygau, ac un o ddrygau mawr y byd yw rhyfel, ac ni pherthyn i'r Eglwys fel y cyfryw ei drefnu na'i gyhoeddi. Heddwch yw nodwedd ei chenadwri hi, a'i neges fawr yw cyhoeddi. a lledaenu egwyddorion y deyrnas nad yw o'r byd hwn; y deyrnas sydd i ddwyn tangnefedd ar y ddaear, ac i ddynion ewyllys da," a gwneud y byd yn gyfryw y bydd rhyfel yn ambosibl ynddo. Ond y mae encyd o ffordd rhyngddi a chyrraedd ei nod, ac hyd nes y cyrhaeddo ef, y mae rhyfel, er yn ddrwg, ac yn ddrwg mawr, eto yn sefyllfa bresennol y byd, yn un o'r drygau angenrheidiol.-angenrheidiol o bosibl tuagat i'r Eglwys gyrraedd ei hamcan. A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a son am ryfeloedd: gwel- wch na chyffroer chwi: canys rhaid yw bod hyn ol1: eithr nid yw y diwedd eto." I'r wladwriaeth yn hytrach nag i'r Eglwys y perthyn trefnu rhyfel, ond os y barna hi fod rhyfel neilltuol i'w gyfiawnhau y mae ei theyrngarwch yn ei rhwymo i gefnogi y wladwriaeth, a pheidio gosod un rhwystr ar ei ffordd. Cydnabydda yr Eglwys fod drwg *Anerchiad a draddodwyd yng Nghyfarfod Misol Gorllewin Meirion- nydd, Ionawr, 1916.