Welsh Journals
Search over 450 titles and 1.2 million pages
CYDNABYDDIR gan bawb ein bod ar hyn o bryd yng nghanol yr argyfwng mwyaf difrifol a fu yn hanes y Deyrnas hon. Yn erbyn ein hewyllys yr ydym wedi ein tynnu i mewn i helynt sydd yn bygwth ein bodolaeth, ac yn profi ein cymeriad. Helynt ydyw sydd yn rhwym o arwain i gyfnewidiadau mawr a phwysig yn Ewrop, ac, o bosibl, mewn rhannau eraill o'r byd. Helynt na bu ei fath yn holl hanes y gorffennol, ac, ni a obeithiwn, na welir ei fath byth mwy ar y ddaear. Y mae nifer y cen- '.edloedd a gymer ran ynddo, yr offerynnau dinistriol a ddyfeisir ac a ddefnyddir, y bywydau a gollir, y trueni a ddioddefir, a'r arian a wastreffir, yn ein llenwi â dychryn, ac yn ein harwain i ofyn llawer o gwestiynau. Yn annibynnol ar agweddau gwleidyddol y mater hwn, y mae iddo ei agweddau crefyddol ac â'r agweddau hyn y mae a wnelom ni'n awr. Mewn un ystyr ni ellir, ac ni ddylid ceisio, cadw'r agweddau gwleidyddol a chref- yddol ar wahân. Yn Israel gynt yr oedd yr arweinwyr crefyddol-y Proffwydi-yn cymeryd rhan flaenllaw yn helyntion gwleidyddol y deyrnas. Sonnir weithiau am the putfcly political aspect. Ond, mewn gwirionedd, an- fynych y mae hwnnw n bod. Ond beth bynnag am hynny, i drychineb fel yr un presennol, y mae yna agweddau hollol grefyddol; cyfyd cwestiynau sydd a wnelont, nid yn unig âg amcanion a dyheadau gwlad- weinwyr a phobl, ond, hefyd, â Llywodraeth Duw dros y byd, yng nghyda dyledswydd Ei bobl yn wyneb y cyn- hyrfiadau hynny a ddigwydd o dro i dro ar y ddaear. Yn awr, yr hyn sydd yn gwneud y Beibl yn llyfr byw. yn llyfr o werth arhosol, ydyw, fod ynddo genadwri at ddyn ac at genedl ymha galedi ac ymha ddyrysych bynnag y dichon i'r dyn hwnnw neu y genedl honno gael ei hunan ynddo; cenadwri i'w arwain, i'w gryfhau, ac i'w gysuro; Y TRAETHODYDD. CENADWRI HABACUC.