Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A MI'N llanc yng nghyffiniau'r deg neu'r deuddeg oed, cofiaf yn dda fod gennyf yr adeg honno, fel heddyw, fy "ngwroniaid"; a phregethwyr a beirdd ydoedd y rheiny; a synnwn i ddim nad edmygwn yr ail ddosbarth yn fwy na'r cyntaf yr adeg honno-neu, efallai mai cywirach dywedyd nad ystyriwn bregethwr yn un o'r rhywogaeth uchaf oll oni fyddai'n fardd yn ogystal: ïe, dyna fy ideal i-pregethwr a hwnnw'n fardd Ni wyddwn ond y nesaf peth i ddim am gynnwys Erthyglau'r Cyffes Ffydd-nid oeddynt hwy'n ddigon barddonol, debyg, i ennill fy niddordeb ieuanc! Nid wyf yn cofio adeg pan nad apeliai'r Beibl yn gryf ataf-am ei fod yn llyfr mor farddonol. Fodd bynnag am hynny, cofiaf yn dda am un llyfr bychan hylaw (sydd ddigon sych i mi erbyn hyn!) a ystyriwn yn meddu ar gryn deilyngdod barddonol-os nad ysbrydoledig yn wir—a hwnnw ydoedd Y Dydd- iadur." A'r prif reswm am hynny oedd y ffaith: y cyn- hwysai ymhlith ei Restrau nifer o bregethwyr â ffug- enwau barddol ganddynt. Cofiaf yn dda y swyn dirfawr oedd i mi yr adeg honno o sylwi ar enw y Parch. William Thomas (Islwyn), Babell, Pontllanfraith" yn Rhestr Sir Fynwy! Ac, am nifer o flynyddoedd, ei enw ef ydoedd yr unig lygedyn heulog iawn i mi yn y llyfr bach diddorol hwnnw-yr oedd fel rhyw seren unig yn llewyrchu drwyddo! Eithr fel y dirwynai'r blynyddoedd -a Dyddiadur newydd, wrth gwrs, yn ymddangos gyda gwawr pob blwyddyn newydd-gwelwn fod y sêr yn dechreu amlhau, a minnau'n ymhyfrydu yn y gwaith o'u galw hwynt oll wrth eu henwau." Gallwn y funud yma enwi'r rhestr yn rhwydd; eithr ymataliaf. Eithr, yτı ei thro ymhlith y lliaws," cofiaf am ymddangosiad un seren yn arbennig, sef yr un a elwid Alafon." Nid wyf yn cofio'r flwyddyn; ond rhywbryd yn yr Eightks yr oedd. Nid cynt y gwelais yr enw nag y syrthiais mewn cariad âg ef. Alafon Dyna enw hylifol, dyna enw mwyn-a'i lond o fiwsig a phêr lesmair! Nid ymgyng- horais âg unrhyw Eiriadur i wybod ei ystyr-hyd y funud yma. Gwn ers amser bellach beth ydyw ystyr alaf (lliosog alafoedd, elyf), sef cyfoeth. Be ddywed Geir- iadur Bodvan Anwyl ? Dacw'r gair­gyda’r dagr o'i ALAFON.