Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

METHODISTIAETH A LLENYDDIAETH GYMREIG. III. Yn yr ysgrif ddiweddaf, yng nglyn â golygiaeth Y Drysorfa," rhoddwyd 1907 — 1911 fel y blynyddoedd y bu y Parch. J. E. Davies, M.A., yn ei golygu, pryd mai 1908-1912 a ddylasai fod, ac felly yn y flwyddyn 1913 (ac nid 1912) y cychwynnodd y diweddar Alafon ar ei waith fel ei golygydd. Wrth son am Y Methodist (1854— 1856) dylesid cyfeirio at Y Methodist cyntaf, a ddaeth allan o Mawrth, 1852, hyd Rhagfyr, 1853, dan olygiaeth y Parch. Lewis Jones, Bala. Hefyd o bosibl y dylesid hysbysu mai y cylchgrawn diweddaf i ddyfod allan ydyw Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfin- aidd," dan olygiaeth y Parch. M. H. Jones, B.A., Mr. J. H. Davies, M.A., a Mr. Richard Bennet, Bangor, a daeth y rhifyn cyntaf allan ym Mawrth, 1916. Wrth gyf- eirio at ysgrifau o natur gyfraniadol wedi ymddangos mewn Cylchgronau (gwel yr ysgrif ddiweddaf) dylesid nodi ysgrifau y Parch. Lewis Edwards, D.D., ar Ber- son Crist" yn Yr Arweinydd (1879— 1880); darlithiau y Parch. D. Charles Davies, M.A., ar Gristionogaeth," yn Y TRAETHODYDD, gan gychwyn gyda'r rhifyn am Hydref, 1881, ac ymlaen yn rhifynnau Ionawr, Ebrill, Gorffennaf, a Hydref, 1882, Ionawr, Ebrill, Gor- ffennaf, a Hydref, 1883, ac ymlaen eto gyda gwa- hanol rifynnau am ddwy neu dair blynedd yn ddilynol; ysgrif y Parch. W. M. Lewis, Ty Llwyd, yn Y Drys- orfa," am Mawrth, 1904, ar Yr Ysbryd Glan," ac vs- grifau eraill ganddo ar awduriaeth yr Epistol at yr Heb- reaid; ysgrifau y Parch. William Hobley ar "Jacob Boehme ac ar Gyfriniaeth (gwel Y Traethodydt> am y flwyddyn- 1900-y pedwar rhifyn, ac ymlaen am y tair blynedd dilynol, ac yna y rhifynnau am Mawrth a Mai, 1907, a Ionawr, 1908). Dangoswyd eisoes fod y Cylchgronau yn meddu mesur helaeth o rym moesol ac ysbrydol yn y wlad. Diau fod gan y Cylchgrawn fantais ar y Newyddiadur: brysiog iawn yw y newyddiadur- dywed ei neges mewn awr neu ddwy, ac yna rhedymaith, diflanna o'r golwg, a phrin y gwelir ef mwyach, tra yr