Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fod ein golygiad ar y pwnc yn naill-ochrog, a'r farn o ganlyniad yn anghywir" (gwel "Traethodau Duwinyddol," tud. 126). Cymhwysir hyn ganddo at berthynas Duw â chyfrifoldeb dyn. ac at wirioneddau eraill cyffelyb, a chofier iddo ys- grifennu hyn pan oedd ystormydd y Dadleuon Diwinyddol heb lwyr dawelu, ar ol cyfnod maith a blin o ddadleu ac ysgrifennu ar yr athrawiaethau, a'r dadleuwyr yn cym- eryd rhan yn gwbl ar eu tir cyfyng eu hunain, gan edrych ar y Gwirionedd yn unig oddiar eu safbwynt eu hunain. fel yn sicr yr oedd y wedd eang gyferbyniol hon-undeb agweddau cyferbyniol-a gymhellai ef i edrych ar bethau yn gyfraniad gwirioneddol i safle Diwinyddiaeth yng Nghymru, ac i fesur llawer helaethach nag o'r blaen par- heir yn ein plith i edrych ar athrawiaethau Crefydd oddiar y safle honno. Gronant. T. M. Jones (Gwenallt). (I orffen yn cin nesaf). NODWEDDION YR OES. Nid mantais i gyd i ogryn y cwestiynau a ddaw tan sylw yw ein hagosrwydd ni atynt. Buasai ychydig bellter oddi- wrthynt yn gymorth inni synio'n gywirach am danynt a chymryd golwg decach arnynt. Haws at ei gilydd yw dehongli'r hyn sy bell oddiwrthym na'r hyn sy'n agos atom, mor agos atom a ni'n hunain. Diogelach yw der- byn barn pobl yr oes hon am Oliver Cromwell a theithi cyfnod y weriniaeth yr oedd efe'n gymaint rhan ohono na barn y rhai a fydiai yn y cyfnod hwnnw ac a adwaenai'r amddiffynnydd yn ol y cnawd; a digon tebyg y bydd barn y cenedlaethau a ddaw am ein cydwladwr enwog, gweini- dog tân a brwmstan Prydain Fawr yn Armagedon y bobl- oedd, ac am nodweddion y cyfnod y tyr efe cyn wyched ffigiwr ynddo, yn ddiogelach i'w dilyn na'n barn ni sy mor agos ato ac yn gydweithredyddion âg ef yn ffurfiad y nod- weddion. Yr oes a ddêl fydd lladmerydd goreu'r oes sy'n cerdded. I fedru portreadu'n weddol gywir yr oes yr ydym ni'n byw ynddi ac yn helpu i lunio'i chymeriad. rhaid inni ymddidol o honi a sefyll, mal pe bai, o'r tuallan iddi. Pwy a adwaenai Gymru'n well ac a ddehonglodd ei hysbryd yn rhagorach na'r ddeufardd alltud Goronwy a Cheiriog?