Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

feddyg, yn gyfreithiwr, yn weinidog, ac yn bopeth arall iddo'i hun. O Gymru, dal yr hyn sydd gennyt fel na ddygo neb dy goron di, a choded dy haul yn uwch eto i'r lan. Amser a ballai, heb son am ofod, inni draethu am y llu dyfeisiau a darganfyddiadau a ddyry'r fath arbenig- rwydd ar ein hoes. Ebe'r doethwr o Chelsea, wr doniol It is the age of machinery in every outward and inward sense of that word. Our old modes of exertion are all discredited and thrown aside. On every hand the living artisian is driven from his workshop to make room for a speedier, inanimate one. The shuttle drops from the fingers of the weaver and falls into iron fingers that ply it faster. Even the horse is stripped of his harness, and finds a fleet fire-horse yoked in his stead. Nay, we have an artist that hatches chickens by steam the very brcod-hen is to be superseded Not the external and physical alone is now managed by machinery, but the internal and spiritual also. We have machines for educa- tion we have religious machines of all imaginary varieties." Y Valìey, Môn. R. HUGHES. MARY SLESSOR. Benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod. Rhodd- wch iddi o ffrwyth ei dwylaw, a chanmoled ei gweithred- oedd hi yn y pyrth." Troes Mary Slessor ofn yr Arglwydd yn rheswm dros berswadio dynion, ac yn rym i wneuthur hynny; a llwyddodd yn rhyfedd yn ei gwaith, gartref ac oddicartref. Haedda glod mawr, am ei hym- roddiad, ei dewrder, ei hantur, a'i haberth; arddelwyd hi gan y nefoedd, a gwerthfawrogwyd ei llafur ar y ddaear. Eithr ni fynnai hi son am haeddiant dynol; carai ogoniant Duw yn hytrach na gogoniant dynion; ac er pob enwog- rwydd a dyrchafiad a ddaeth i'w rhan parhaodd yn Grist- ion syml a gostyngedig hyd ddiwedd ei hoes. Pan fyn- egid syndod at ei gorchestion dihafal ar y maes cen- hadol, parod fyddai i ddywedyd mai yr hyn a ddylasai ei wneud yn unig a wnaethai. Yr hyn a'i synnai ac a'i poenai hi ydoedd na ddeuai llawer yn rhagor o ferched a meibion allan at gyffelyb waith ymhlith y paganiaid, ac na byddai yr eglwys gartref yn abl i godi a chynnal y cyfryw. Absenoldeb yr elfen o hunanymwadiad yn y bywyd crefyddol a'i doluriai ac a'i dyrysai, — «r na fyn- asai osod ei hun yn farnydd ar eraill. Cafodd oes ddigon hir yn Affrica i fedru gweled llawer o ffrwyth ei dwylaw