Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SAFLE PLATO AR ANFARWOLDEB YR ENAID. i. Diau nad oes dim mwy deniadol wedi ei ysgrifennu ar Anfarwoldeb yr Enaid na'r Traethawd gorchestol a elwir Phaedo, gan Plato. Synnir ni gan ei gywrein- rwydd rhesymegol, ei eglurder meddyliol a'i ddyfnder treiddgarol. Pan ystyrir iddo gael ei ysgrifennu for- eued yn hanes y byd athronyddol, synnwn yn fwy. Nid oedd gan Blato fanteision yr Esgob Butler, ond eto, a chymeryd yr oll i ystyriaeth credwn y rhagora y Groegwr ar yr Esgob galluog mewn meistrolaeth resymegol a dyfnder meddyliol. Bu y Trethawd o ddylanwad dir- fawr yn y canrifoedd aethant heibio a darllenir ef hyd ddiwedd amser. Efe yw gwaith clasurol y byd paganaidd ar Anfarwoldeb, a bu am oesoedd mewn bri yn yr eglwys fel y peth agosaf at Ddatguddiad Dwyfol ar y mater. Nid rhyfedd hyn ychwaith, oblegjd pan ddechreuir ei ddarllen nid yw yn bosibl ei roddi i fyny, gan faint ei swyn sugn-dynol a'i ymresymiad manwl a llawn o syn- nwyr cyffredin. Disgyblaeth feddyliol o radd uchel yw ei efrydu i unrhyw un sydd am ddysgu ymresymu. Ehanga feddwl dyn am allu yr hen athronwyr, a rhydd olwg glir ar ddysgeidiaeth Athen dros 450 o flynyddoedd cyn Crist. Na chamddealler ni yn y sylwadau hyn. Nid ydym am ddweyd fod ymresymiad Plato ar Anfarwoldeb uwchlaw eiddo pawb eraill, na bod ei resymau yn ehangach na chyn eanged ag eiddo ysgrifenwyr y dydd- iau hyn. Ni ddisgwyliai neb iddo allu bod ehanged ei wybodaeth ag Athronwyr y ganrif hon. Ond yn Ath- roniaeth y canrifoedd cyntaf y mae ar ei ben ei hun ac uwchlaw dim a ysgrifennwyd. Yn y blynyddoedd hyn y mae Gwyddoniaeth wedi lledu ei hadenydd gymaint fel y gall ysgrifennydd ar Anfarwoldeb dynnu rhesymau o feysydd nad oedd yn bosibl i Blato. Hefyd, nid oedd llenyddiaeth o un fath ganddo ef i ymgynghori â hi ar y mater cyn belled ag y gwyddom. Rhaid cymeryd y pethau hyn i ystyriaeth wrth gymharu ei Draethawd â gweithiau eraill mwy diweddar. Heb fyned allan o'r Gymraeg, er enghraifft, ymofyner â llenyddiaeth ddihys- bydd y pwnc yng nghyfrol orchestol yr athronydd Dr. Phillips, Tylorstown, ar Athroniaeth Anfarwoldeb," a cymharer â hi waith swynol y bardd Dr. Moelwyn