Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIAD. CYLCHGRAWN CYMDEITHAS HANES Y METHODISTIAID CALFINAIDD. Cyf. I. Rhifynnau 1 a 2. Welsh Out- look Press," Caerdydd. 1916. Cam yn yr iawn gyfeiriad oedd gwaith y Gymanfa Gyffredinol ym Mootle, ddwy flynedd yn ol, yn sefydlu Cymdeithas Hanes per- thynol i'r Cyfundeb. Yr oedd angen am y fath Gymdeithas; rhcdd- wyd bod iddi am y teimlid fod gwaith neilltuol iddi i'w wneuthur, sef < hyrwyddo astudiaeth gywir o'r hanes a'r llenyddiaeth a berthyn i Fethodistiaeth Galfinaidd." Er ysgrifennu hanes, yr anhebgor cyntaf ydyw ymgydnabyddu a'r ffynonellau; a dyna amcan pennaf y Gymdeithas hon-ein har- wain i lygad y ffynnon, dangos y graig y naddwyd ni, fel Cyfun- deb, ohoni, a cheudod y ffos o'r hon y'n cloddiwyd. Mae'r Gym- deithas yn llinell meddwl yr oes, ac yn cyfarfod a'i thymer. Gwerth- fawrogir yr hen. Nid felly y bu bob amser. Mewn ysgrif alluog o ragarweiniad i'r ail rifyn o'r Cylchgrawn cyfeiria y Parch. John Williams, Brynsiencyn, at y newid hwn sydd wedi dod dros y wlad. Ddeugain mlynedd yn ol ni roddid pris ar y pedyll pres a'r platiau piwtar, gwerthid llyfrau Cymreig prin, a hen lawysgrifau Cym- reig o werth mawr, am y nesaf pethid i ddim, am na wyddid eu gwerth. Ond daeth tro ar fyd. Ceisir hwy bellach ar hyd a lled y wlad, a rhoddir y prisiau uchaf am danynt. Yr un modd mewn cylchoedd crefyddol, mae pob hen lyfr a llythyr a llawysgrif, yn cael parch, nid er eu bod, ond am eu bod yn hen. Maent yn apelio at un o reddfau ein natur, a honno yn reddf na ddylid mewn un modd ei dibrisio (Cyf. i. Rhif 2, t.d. 50). Y brif ffynhonell am ffeithiau ddeil berthynas a hanes cychwyn- iad ein Cyfundeb ydyw dyddlyfrau Howel Harris. Mae y rhai hyn yn dra lluosog ac o'r gwerth mwyaf. Maent wedi eu hysgrifennu mewn Lladin, Cymraeg, a Saesneg. Nifer o flynyddoedd yn ol pen- ododd y Gymanfa Gyffredinol nifer o frodyr-Pwyllgor Llawys- grifau Trefeca-i ystyried y ffordd oreu i ddefnyddio y dyddlyfrau hyn. Apwyntiodd y Pwyllgor hwn wr cymwys-y Parch. D. E. Jenkins-i adysgrifio dyddlyfrau Howel Harris, a bu yntau yn ddi- wyd yn ystod y blynyddoedd 1910-1915. gyda'r gwaith hwn. Rhwyddhaodd hyn y ffordd i'r Gymdeithas Hanes; aeth i mewn i lafur Pwyllgor Llawysgrifau Trefeca. Dyna hanes cychwyniad y Gymdeithas. Ysgub flaenffrwyth y Gymdeithas ydyw y ddau rifyn hyn o'r cylchgrawn. Os ceir nifer ddigonol o danysgrifwyr bwr- iedir cyhoeddi rhifyn o'r Cylchgrawn bob chwarter blwyddyn. Er y bydd y Cylchgrawn yn ymwneud yn bennaf a ffeithiau ddeil ber- thynas a dechreuad y Cyfundeb, eto ni chyfyngir ei gylch yn gwbl i hyn, ond gwahoddir y darllenwyr i anfon unrhyw lythyrau neu gofnodion ali fod yn eu meddiant yn dal perthynas a chyfnodau diweddarach. Rhoddir enghraifft darawiadol o'r hyn ellir ei wneud yn v ffordd hon yn y Rhagymadrodd i'r ail rifyn. Tybid fod Hunan-gofiant John FHias a'i bregethau ar Ioan xvii. wedi eu colli yn llwyr, ond drwy chwilio hir deuwyd o hyd iddynt. Mae hwn yn gyfeiriad y gall llawer gynorthwyo ynddo. Ceir yn y ddau rifyn cyntaf ysgrifau Cymraeg a Saesneg, ac am- rywiaeth mawr yn y materion a drafodir. Erthyglau arweiniol