Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y TRAETHODYDD. Ar y ddaear isod nid oes i neb o honom ddinas barhaus. Hen wireb yr oesau yw fod pawb dynion yn farwol. Cyn sicred ag y genir dyn, cyn sicred a hynny y bydd efe farw. Gosodwyd i ddynion farw unwaith," yw'r ddedfryd ys- brydoledig. Nid cynt y gwawria'r gwirionedd hwn ar feddwl dyn nag y cyfyd y cwestiwn, beth wed'yn? Ië, beth wed'yn? Yn ein gwaith yn ceisio'i ateb, daw rhyw- beth fel byd arall ar draws y meddwl­-sefyllfa o fod tu draw i'r llen. Mae'r mwyafrif o'r ddynoliaeth, Cristion- ogion a Phaganiaid, yn credu mewn byd arall, i'r hwn y dianga'r enaid wedi y syrthio'r llen ar lwyfan chwarae'r bywyd hwn. Er y cyn-oesau pell yn ol y mae dynion wedi arfer credu fod yn y byd arall ddau fath ar fodol- aeth, y naill o wynfyd pur, a'r llall o boen arteithiol, ac mai teilyngdod neu annheilyngdod y bywyd presennol setla'n tynged wedi myn'd oddiyma. O ganlyniad, pan sefydlom ein llygaid ar y tynghedau posibl hyn, sef y ddwy sefyllfa o fod, fe gyffroi'r y teimladau o obaith ac ofn, gobaith am ddedwyddyd ac ofn rhag y boen. Gan fod ein tynged yn y byd a ddaw, boed hapus neu druenus, yn fater difrifol, y mae i'r byd hwnnw yn naturiol gryn Ie yn ein meddyliau, a chwery ran bwysig yn ffurfiad ein bywyd a'n cymeriad y naill ffordd neu'r llall. O gyfeir- iad myfyrdodau o'r natur hyn y cyfyd yr hyn a adnabyddir wrth yr enw anghyfaith othcr-worìdliness. — arall-fydol- rwydd. Caniataer i mi olrhain hanes y gair hwn. Yn debyg i aml air arall fe berthyn i arall-fydolrwydd ei ystyron ffafriol ac anffafriol. Fe aiff rhyw eiriau, fel mae'n wybyddus, drwy droion rhyfedd yng nghwrs amser, gan newid eu hystyr yn fawr iawn, mor fawr yn wir, am- bell dro, nes iddynt arwyddocau ym mhen ysbaid yr ystyr wrthgyferbyniol i'r hyn fwriedid iddynt ar y cychwyn. "DROS Y TERFYN." 1.