Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

METHODISTIAETH A LLENYDDIAETH GYMREIG. IV. Gan mai hon yw yr ysgrif olaf, caniataer i ni wneud ychydig gywiriad ar y sylw yn yr ail ysgrif ar y Cylch- gronau (rhifyn Ebrill) pan y rhoddwyd Pethau Newydd a Hen" (1826—9) a Y Drysorfa Fach (1826) fel dau gylchgrawn gwahanol, pryd mai un oeddynt dan yr enw -`` Pethau Newydd a Hen, neu Drysorfa i'r Ysgol Sab- bothol," Ionawr, 1826, ac a gyhoeddid trwy ganiatad a chefnogiad Corph y Trefnyddion Calfinaidd yn bennaf yn Swydd Drefaldwyn, gan R. Newell a M. Davies." Wrth son am y Cylchgronau, ni byddai yr adolygiad yn gyflawn heb gyfeirio at erthyglau gwerthfawr Mr. Ifor Williams, M.A., a'r Athraw W. Lewis Jones, M.A., Bangor, yn Y Cymmrodor," cyhoeddiad ag yr ydym fel corff o bobl yn llawer rhy ddieithr iddo, a gellir dweyd yn ddibetrus mai yn hwn yr ymddangosodd rhai o'r erth- yglau goreu yn dal perthynas â Chymru yn ystod y blyn- yddoedd diweddaf. Yn nechreu y drydedd ysgrif (rhifyn Gorffennaf), wrth gyfeirio at rai llyfrau Saesneg a gy- hoeddwyd gan Fethodistiaid, dylesid nodi y ddau lyfr Saesneg gwerthfawr-" The Sunday Schools of Wales, and History of Welsh Literature (1883), gan y diwedd- ar Barch. David Evans, M.A., Gelligaer (Abermaw ar ol hynny), a Life of Howell Harris, the Welsh Reformer (1892), gan y Parch. Hugh J. Hughes, Merthyr Tydfil. Yn y cysylltiad hwn hefyd dylid enwi Mr. E. Edwards, M.A., M.R.A.S.. Llundain, yr ysgolhaig Persiaidd yn yr Amgueddfa Brydeinig, fel un sydd wedi ac yn parhau i gyflawni rhan werthfawr i Lenyddiaeth mewn cyfeiriad arbennig. Diau y cydnabyddir yn gyffredinol fod "Y Gwyddon- iadur Cymreig" yn un o brif lyfrau ein cenedl, ac nid amhriodol dweyd ei fod yn fath o lyfrgell fechan ynddo ei hun. Daeth allan ar y dechreu yn rhannau misol, a chyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ohono ar ddechreu y flwy- ddyn 1854. a chwblhawyd y ddegfed gyfrol yn y flwyddyn 1879. Dosbarthwyd oddeutu pedair mil 0 gopÏau o bob rhifyn y flwyddyn gyntaf, a chynhyddai nifer y derbynwyr fel yr elai y gwaith ym mlaen. Syniad y diweddar Mr.