Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IDDEWIAETH A CHREFYDD ISRAEL. Yn ystod y Gaethglud ac wedi'r Dychweliad aeth crefydd Israel trwy gyfnewidiadau pwysig. Bron na wnaeth y cyfnewidiadau hyn hi yn grefydd newydd a gwahanol. O'r hyn lleiaf buont yn ddigon i gyfiawnhau, ac yn wir i hawlio, rhoddi arni enw newydd. O adeg y Dychweliad ei henw yw Iddewiaeth. Cyn hynny crefydd Israel oedd hi, ac ni ddylid ei galw ar yr enw hwn ar ol y Dychweliad. Beth ynte yw'r gwahaniaeth rhwng Iddewiaeth a Chre- fydd Israel ? Nodwn rai o'r prif bethau. i. Gwahaniaeth pennaf Iddewiaeth oddiwrth grefydd Israel ydyw ei deddfoldeb. Crefydd deddf ydyw: "Bu deddfoldeb yn un o nodweddion hanfodol Iddewiaeth o'r cychwyn; un o'i phrif amcanion bob amser ydyw llunio bywyd yn ei holl gysylltiadau amrywiol yn ol y Ddeddf a gwneud ufudd-dod i orchymynion yn angenrheidrwydd ac yn arfer."1 Beth olygwn wrth y Ddeddf ? Y casgliadau o gyfreithiau moesol a seremoniol a geir yn y Pum Llyfr, casgliadau wnaed yn eu ffurf presennol gan mwyaf tua dyddiau'r Gaethglud ac wedi hynny. Ond nid hynyna yn unig. Cynhwysa y Ddeddf hefyd y gyfraith lafar, y myrdd o reolau manwl ac amrywiol a ddatblygwyd gan athrawon a dysgedigion y genedl i gyfarfod ag amgylchiadau ac an- hawsterau oes ar ol oes, ac yn y diwedd a gasglwyd ac a gyhoeddwyd yn y llyfrau Iddewig, y ]\Iishna. y Talmud, y Targums a'r Midrashim. Ystyrir y rhai hyn oll yn rhan o'r Ddeddf fel y Pum Llyfr. Yr un yn ddiau ydyw egwyddor sylfaenol Iddewiaeth ag eiddo crefydd Israel. Y mae'r egwyddor hon yn un o hanfodion crefydd, sef y mynnai Duw i holl fywyd dyn gael ei drefnu yn unol a'i ewyllys Ef. Yn ei chymhwysiad o'r egwyddor yma, modd bynnag, aeth Iddewiaeth i'r pellter eithaf oddiwrth ddysg- eidiaeth ysbrydol y Proffwydi fel y ceir hi (e.g) yng ngeir- iau Micah (pen. vi. ad. 8), Dangosodd efe i ti ddyn pa beth sydd dda a pha beth a gais yr Arglwydd gennyt, ond gwneuthur barn a hoffi trugaredd ac ymostwng i rodio gyda'th Dduw." Oblegid mewn Iddewiaeth gosodir y pethau mwyaf dibwys mewn arfer a seremoni yn ymar- ferol ar yr un lefel a materion mawr moes a chrefydd. ILauterbach Jewish Encyclopaedia.