Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ffurf fu gennym ni dan sylw, modd bynnag, yw'r un bwysicaf o ddigon. A hi, fel y cyfeiriwyd, yn unig sydd wedi parhau hyd yn awr. Ac y mae dyled Cristionogaeth iddi yn fawr a phwysig. Oblegid mewn gwirionedd ychydig o athrawiaethau cwbl newydd28 a ddysgir yng nghrefydd yr Arglwydd Iesu Grist. Etifeddodd yr Eglwys Gristionogol y rhan fwyaf o'i hathrawiaethau o gynysgaeth gyfoethog yr Iddew. 28Y rhai pennaf ydyw Athrawiaeth y Drindod, a'r Athrawiaeth am Berson a Gwaith yr Arglwydd Iesu Grist. G. WYNNE-GRIFFITH. CYMANFA WESTMINSTER. (The Assembly of Diinnes). I Mae yn debyg mai ychydig ysgrifennwyd erioed yn Gym- raeg ar y Gymanfa nodedig a bythgofiadwy hon, y bennaf yn ddiau gynhaliwyd erioed o fewn y byd; ac mae yn bosibl mai nid hollol aniddorol fyddai ychydig o'i hanes yn y TRAETHODYDD yn y dyddiau a'r amgylchiadau mawr- ion presennol. Ni wnawn ni hynny er mwyn dyrchafu na darostwng unrhyw blaid grefyddol, oblegid amlwg yw fod pob plaid yn llawer rhy gyfyng eu syniadau am ryddid crefyddol y pryd hwnnw. Yr oedd y cryf am orth- rymu'r gwan pwy bynnag fyddai y naill a'r llall. Galwyd y Gymanfa honno ynghyd gan y Senedd, yn y flwyddyn 1642, pan yr oedd y Rhyfel Cartrefol newydd dorri allan rhwng y Senedd a Siarl I., a phan yr oedd y ffurf Esgobyddol yn Eglwys Loegr wedi ei dymchwelyd drwy ddeddf Seneddol am y pryd, ac ymgais yn cael ei gwneud i osod i fyny y ffurf Henaduriaethol (Prcsbyter- ian) yn ei lle. Fel y mae yn wybyddus, yr hyn arwein- iodd i'r ystad honno ar bethau, i ddechreu, oedd gwaith y brenin Harri VIII. yn cymeryd arno ei hun y teitl o Ben yr Eglwys, gan daflu ymaith iau y Pab, gosod i fyny y ffurf Brotestanaidd yn yr Eglwys, a manteisio ar y safle newydd honno i gyfyngu ar ryddid crefyddol prin ei ddeil- iaid. Dangoswyd yr un ysbryd, ac arferwyd yr un tra- hausder gormesol gan ei olynwyr, Mari, Elisabeth, Iago. a Siarl I. Yr oedd ei fab Edward VI. yn hollol wahanol, ond ni chafodd ef fyw i gario allan ei ddiwygiadau bwr-