Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MARW. Yn hwyr y nos, a'r corff ar ddihun, Wrth synio marwolaeth, bum farw fy hun. Teimlais yr iasau rhyfedd sydd Yn cosi'r ymennydd, a'r enaid yn rhydd. Gwelais oferedd uchelgais oes A rhinwedd anfarwol gwaed a chroes. Gwelais ffolineb dyn a rydd fryd Ei enaid ar lynu'n ei dipyn byd. Pan fyddwn farw, ein dau, ryw ddydd, -Fy nghorff a minnau, mor hyfryd fydd Cofio'r marw dihun a diloes Wnaeth ofni marw yn chwerthin foes; Y marw a droes fy uchelgais i Yn gariad at groes a Chalfari. T. H. PARRY-WILLIAMS.